
Yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw yn y Senedd, soniodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, am y cynnydd pryderus mewn trais yn ysgolion Cymru.
Gan gyfeirio at euogfarn ddiweddar merch ysgol yn ei harddegau am ymosodiad trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman, tynnodd Mr Millar sylw at y cynnydd brawychus mewn trais mewn ysgolion ledled Cymru.
Cyfeiriodd at adroddiadau o orfod cyfyngu ar symudiadau a chloi pawb i mewn mewn ysgolion, disgyblion yn dod ag arfau i ysgolion, ymosodiadau ar athrawon ar gynnydd a newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganllawiau adrodd am waharddiadau, sy’n nodi nad yw cludo arf yn rheswm adroddadwy dros wahardd erbyn hyn.
Yn ogystal, codwyd yr argyfwng recriwtio athrawon gan Mr. Millar, a amlinellodd fod y trais cynyddol yn ein hysgolion yn gwneud i bobl ailfeddwl am y proffesiwn addysgu, gyda nifer yr athrawon sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol wedi gostwng mwy nag 20% a'r llynedd gwelwyd yr ymadawiad mwyaf o'r proffesiwn addysgu ers dros ddegawd.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn yn y Senedd, dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:
"Mae'r cynnydd mewn trais yn ein hysgolion yn peri pryder mawr, ni ddylai unrhyw athro na disgybl deimlo'n anniogel yn yr ysgol, ond gydag adroddiadau o arfau'n cael eu dwyn i mewn i ystafelloedd dosbarth ac athrawon yn wynebu camdriniaeth ac ymosodiadau ar gynnydd, mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.
"Yn hytrach na thynhau polisïau i ddiogelu athrawon a myfyrwyr, mae canllawiau ar waharddiadau wedi cael eu gwanhau, gan anfon y neges anghywir i’r rhai sy'n cario arfau i ysgolion. Mae'n rhaid cael rheol bendant a chyson sef bod mynd ag arf i'r ysgol bob amser yn arwain at waharddiad, a dim arall.”