
Gorllewin Clwyd – calon Gogledd Cymru...
Mae Gorllewin Clwyd yn etholaeth hardd yng nghalon Gogledd Cymru. Yng ngogledd y sir, mae rhai o’r canolfannau glan môr mwyaf poblogaidd yn y wlad, ac yn ne’r sir mae golygfeydd ysblennydd Dyffryn Clwyd a Mynyddoedd Clwyd.
Yn ymestyn o Landrillo-yn-Rhos i Fae Cinmel ar hyd yr arfordir ac i lawr i dref farchnad Rhuthun a’r pentrefi cyfagos, mae Gorllewin Clwyd yn etholaeth fawr ac amrywiol. Twristiaeth yw’r prif ddiwydiant yn y gogledd, ac amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig yr etholaeth o hyd.
Mae pobl Gorllewin Clwyd mor amrywiol â’i thirweddau, ac er bod llawer o deuluoedd wedi symud yma o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, Cymraeg yw iaith gyntaf llawer o aelwydydd o hyd, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy gwledig.