Cafodd disgyblion o ddwy ysgol yn Sir Ddinbych gyfle i gwrdd ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn ystod ymweliad â'r Senedd yr wythnos hon.
Ddydd Mercher, cyfarfu Darren â dau grŵp o blant ysgol yn y Senedd - un o Ysgol Borthyn yn Rhuthun, a'r llall o Ysgol Bro Famau yn Llanarmon yn Iâl.
Roedden nhw ar ymweliad i gael sesiwn addysg i ddysgu mwy am Senedd Cymru.
Cyfarfu Darren â nhw ger grisiau'r Senedd a bu’n siarad am ei swydd fel AS a'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Darren:
"Rwyf bob amser yn mwynhau croesawu plant ysgol o fy etholaeth i'r Senedd.
"Roedd ymwelwyr dydd Mercher yn griw brwdfrydig ac roedden nhw i weld yn mwynhau eu hymweliad. Roedden nhw'n dangos diddordeb brwd yng ngwleidyddiaeth Cymru.
"Mae mor bwysig ein bod yn ymgysylltu â'n pobl ifanc o ran sut mae ein democratiaeth yn gweithio ac mae'r ymweliadau addysg hyn â'r Senedd yn ffordd ddelfrydol o wneud hynny."
Gall ysgolion sydd â diddordeb mewn ymweld â'r Senedd ddarganfod mwy yn: Ymweliadau â'r Senedd ar gyfer ysgolion cynradd