
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn hyrwyddo cyfle cyffrous wedi'i ariannu'n llawn i bobl ifanc rhwng 15-18 oed astudio mewn Ysgol Uwchradd yn Japan.
Mae prosiect Asia-Kakehashi a gynhelir gan AFS yn cael ei gefnogi gan lywodraeth Japan. Sefydliad byd-eang nad yw’n gwneud elw yw AFS sy'n cynnig rhaglenni cyfnewid rhyngddiwylliannol i fyfyrwyr. Mae'r rhaglenni hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth drawsddiwylliannol a sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang. Er gwybodaeth, mae’r Llysgennad Suzuki yn un o gynfyfyrwyr AFS.
Mae Prosiect Asia Kakehashi yn rhaglen ysgoloriaeth a noddir gan Lywodraeth Japan a’i nod yw cryfhau’r berthynas rhwng Japan a gwledydd ledled Asia a'r G7. Mae’r term "Kakehashi" yn golygu pont yn Japaneg, sy'n symbol o nod y prosiect i adeiladu cysylltiadau rhwng myfyrwyr ysgol uwchradd yn Japan a'u cyfoedion dramor.
Wrth annog pobl ifanc yng Ngogledd Cymru i ymgeisio, meddai Darren
"Mae'r rhaglen gyfnewid pedwar mis hon yn caniatáu i fyfyrwyr 15-18 oed astudio mewn ysgol uwchradd yn Japan, byw gyda theulu neu mewn neuadd, ac ymgolli yn niwylliant Japan.
"Maen nhw'n chwilio'n arbennig am fyfyrwyr sydd â rhywfaint o brofiad neu ddiddordeb blaenorol yn yr iaith Japaneg, boed hynny drwy hunan-astudio neu wersi ffurfiol.
"Mae'r ysgoloriaeth yn cynnwys hediadau, hyfforddiant a llety.
"Dyma gyfle cyffrous i bobl ifanc ac rwy'n annog y rhai sydd â diddordeb i ddarganfod mwy ac ystyried gwneud cais."
Ychwanegodd:
"Mae 2025 yn flwyddyn arbennig o gyffrous i fyfyrwyr o Gymru, gan ei bod yn nodi Blwyddyn Cymru a Japan—dathliad o'r cysylltiadau diwylliannol a busnes rhwng ein gwledydd. Nod y fenter hon yw cryfhau'r cysylltiadau presennol, creu cysylltiadau newydd, a hybu buddsoddiad, felly mae’n amser delfrydol i fyfyrwyr brofi Japan yn uniongyrchol. "
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr 15 i 18 oed sy'n byw yn y DU.
Mae’r cyfnod gwneud cais bellach ar agor a bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan AFS Cymru. Yna gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer am gyfweliad. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 17 Mawrth 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.afs.wales/kakehashi-project-2025/.