Ar ôl gwneud galwadau dro ar ôl tro dros y blynyddoedd am waith diogelwch ar ddwy groesfan reilffordd beryglus yn ei etholaeth, mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn falch o gael pont droed â ramp yn eu lle.
Cyhoeddwyd fis Awst diwethaf y bydd pont newydd yn cael ei gosod i gymryd lle croesfannau rheilffordd yn Nhŷ Gwyn a Phensarn, ac erbyn hyn mae Network Rail yn gwahodd trigolion a busnesau i fynychu sesiwn galw heibio i ddod i wybod mwy a gweld cynlluniau.
Bydd hyn yn digwydd ddydd Mercher 26 Chwefror rhwng 4.30pm a 7.30pm yng Nghyngor Tref Abergele, Ffordd Llanddulas, Abergele, LL22 7BT.
Bydd sesiwn breifat ar wahân yn cael ei chynnal i'r trigolion ym Mharc Carafannau Tŷ Gwyn yn y prynhawn ar 26 Chwefror.
Gan annog pobl i fynychu, dywedodd Darren:
"Mae'r croesfannau rheilffordd yn cael eu defnyddio cryn dipyn gan bobl leol a phobl ar eu gwyliau ond maen nhw'n berygl gwirioneddol ac yn 2019 yn anffodus bu dwy farwolaeth ar groesfan Tŷ Gwyn. Rwyf wedi bod yn galw ers tro am weithredu i wneud croesi'r rheilffordd yn fwy diogel, felly rwyf wrth fy modd bod y cynlluniau ar gyfer y bont droed newydd hon yn mynd rhagddynt yn dda.
"Mae'r delweddau'n dangos adeiladwaith trawiadol sy'n plesio'n weledol, ond yn bwysicaf oll bydd yn creu ffordd fwy diogel i bobl groesi'r rheilffordd trwy leihau'r perygl o ddamweiniau.
"Byddwn yn annog y rhai sydd eisiau gwybod mwy, neu sydd ag unrhyw gwestiynau am y bont droed newydd, i fynychu'r sesiwn galw heibio lle bydd y cynlluniau a'r delweddau ar gael.
"Diolch i Network Rail am eu holl waith ar y prosiect hwn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at agoriad y bont droed newydd."
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we bwrpasol Network Rail a fydd yn fyw yn ystod y dyddiau nesaf https://www.networkrail.co.uk/pensarn.