Bu arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn cwrdd â ffermwyr Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf i drafod yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd y cyfarfod ar fferm Llŷr Jones, Derwydd, yn Llanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen a mynychodd aelodau NFU Cymru Clwyd.
Roedd Llŷr yn allweddol wrth drefnu arddangosfa o 5,500 o welingtons ar risiau'r Senedd ym mis Mawrth 2024, gan brotestio yn erbyn cynllun ffermio newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Mae'n cynnal diadell gaeedig o 1,100 o famogiaid, yn prynu tua 250 o heffrod llaeth y flwyddyn, ac yn rhedeg uned o 32,000 o wyau buarth, gan werthu'r wyau i Tesco.
Mae ffermwyr Cymru yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd ac roedd Darren yn falch o gael y cyfle i drafod y rhain gyda Llŷr ac aelodau eraill o NFU Cymru Clwyd.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd:
"Dydy bywyd ffermwr erioed wedi bod yn un hawdd, fodd bynnag, ar hyn o bryd mae ffermwyr yng Nghymru yn wynebu mwy o heriau nag erioed o'r blaen.
"Roeddwn i'n falch iawn felly o gwrdd â'r ffermwyr lleol hyn a chlywed yn uniongyrchol am rai o'r problemau maen nhw'n eu hwynebu.
"Mae'r rhain yn cynnwys effaith niweidiol y dull 'ffermio yn ôl y calendr'; cyllid San Steffan ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei symud i Fformiwla Barnett yn hytrach na’i gadw ar wahân sy'n ei leihau o 9% i 5%; treth newydd Llafur ar ffermydd; signal ffôn symudol gwael mewn rhai ardaloedd; ac ymdrechion ynni gwyrdd i leihau cynhyrchiant bwyd yng Nghymru, tra nad yw gwledydd tramor yn dilyn yr un ddeddfwriaeth ynni gwyrdd.
"Fe ddywedon nhw wrtha i fod llawer o ansicrwydd sy'n gwneud ffermwyr yn amharod i fuddsoddi.
"Roedd y cyfarfod yn hynod fuddiol, a byddaf yn sicr yn parhau i hyrwyddo ffermwyr ac amaethyddiaeth Cymru, ac yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru."
Dywedodd cadeirydd sir NFU Cymru, David Williams:
"Rwy'n ddiolchgar i Darren am ymuno â ni yn Nerwydd ac i Llŷr am y croeso.
"Mae wedi bod yn fuddiol cyfnewid barn gyda Darren ac rwy'n siŵr ei fod hefyd wedi dysgu mwy am rai o'r heriau sy’n ein hwynebu fel sector.
"Fel arweinydd yr wrthblaid yn y Senedd, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ef a'i dîm yn y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau gyda'r gwaith pwysig o graffu ar waith Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod gennym y polisïau gorau posibl ar waith i gefnogi'r sector amaethyddol."