Fel y bydd unrhyw un yng Nghymru sydd wedi gorfod cael mynediad at wasanaethau ysbyty yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ei wybod, gall fod yn broses anodd a beichus.
Rwy'n derbyn gohebiaeth yn ddyddiol bron iawn gan etholwyr sydd wedi bod yn aros yn rhy hir, blynyddoedd yn aml, am driniaeth.
Mae'r sefyllfa wedi bod yn gwaethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac o ystyried sylwadau gan y cyn-Brif Weinidog Llafur, Mark Drakeford sydd bellach yn Weinidog Cyllid, mae'n ymddangos nad yw mynd i'r afael ag amseroedd aros yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Ar yr un pryd yn union ag y datgelodd ystadegau diweddaraf y GIG yng Nghymru gynnydd yn y rhestr aros am driniaeth dan y GIG, sydd bellach yn 802,268 achos a’r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed, a hynny am y degfed mis yn olynol - dyna pryd y dywedodd Mark Drakeford mewn podlediad yr wythnos diwethaf bod gormod o ysbytai yng Nghymru
Ei union eiriau oedd: "Os ydych chi'n gofyn i mi, pe bai gen i ddalen wag o bapur a mod i’n cael gwneud y pethau dwi'n meddwl sydd angen eu gwneud, byddai gennym ni lai o ysbytai yng Nghymru. Mae gennym ormod o ysbytai a gormod o welyau."
Bydd gan gleifion ym mhob cwr o Gymru sydd â phrofiadau gyda'r GIG yng Nghymru, resymau amlwg i anghytuno’n groch.
Mae ystadegau iechyd diweddaraf Cymru hefyd yn cwestiynu ei eiriau dadleuol, gan ddatgelu cynnydd arall mewn arosiadau dwy flynedd neu fwy am driniaeth, gyda’r ffigurau ar gyfer arosiadau adrannau brys yn gwaethygu hefyd, gyda’r sefyllfa yng Ngogledd Cymru yn waeth nag yn unman arall.
Mae pobl yn marw'n ddiangen ar hyd a lled Cymru, mae teuluoedd yn colli anwyliaid yn rhy gynnar ac mae ysbryd staff y GIG yn isel. Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn argyfwng ac mae llawer o hyn o ganlyniad i gau ysbytai a gwelyau yn cael eu colli.
Wrth godi hyn gyda'r Prif Weinidog yn siambr y Senedd yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol ‘On the frontline of the UK’s corridor care crisis’, lle nodwyd bod gwelyau yn broblem yn dros 500 o’r achosion.
Ac eto, er bod ein poblogaeth wedi cynyddu 10% ers 1999, mae gwelyau ysbyty wedi gostwng dros 30 y cant yn y cyfnod hwnnw.
Yma yn y Gogledd, rydw i, ynghyd â'r Ceidwadwyr Cymreig eraill sy'n cynrychioli'r rhanbarth, wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewidion, a wnaed dros 12 mlynedd yn ôl, i adeiladu ysbyty i wasanaethu Gogledd Sir Ddinbych, gan ysgafnhau’r pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cafodd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd hwn, ar hen safle y Royal Alexandra yn y Rhyl, eu datgelu yn 2013, ond hyd yma ni welwyd yr un rhaw yn tyrchu’r ddaear.
Rydyn ni wedi gweld arian yn cael ei wario ar newid terfynau cyflymder a mwy o wleidyddion yn y Senedd, ond pan ddaw hi’n achos o fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, dywedir wrthym nad os yr un geiniog ar gael.
Rwy'n fwy na hyderus bod staff rheng flaen ym mhob bwrdd iechyd yn gweithio'n eithriadol o galed i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf a hynny mewn modd amserol i gleifion yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae disgwyl iddyn nhw gyflawni amseroedd aros a thargedau eraill heb yr adnoddau angenrheidiol. Dydy hynny ddim yn dderbyniol a rhaid mynd i'r afael â’r mater.
Rhaid hefyd mynd i'r afael â'r fiwrocratiaeth ormodol a’r gormodedd ar lefel reoli, sy’n faen o amgylch ein GIG ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi bwysleisio na fyddwn yn gwneud unrhyw gynnydd sylweddol i wella pethau tan y bydd y Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn derbyn bod ein GIG mewn argyfwng.
Er mwyn trwsio ein GIG diffygiol a galluogi staff ein gwasanaeth iechyd gwych i gyflawni'r safonau sydd eu hangen ar gleifion, a’r safonau maen nhw’n eu haeddu, mae angen mynd o’i chwmpas hi mewn ffordd gwbl wahanol.