Mae cynifer â 40,000 o gartrefi yn y Gogledd yn parhau heb ddŵr ar ôl i bibell fyrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog, Conwy. Digwyddodd hyn nos Fercher ac mae hefyd wedi gorfodi ysgolion a busnesau i gau, gan achosi trafferthion di-ri ar draws y rhanbarth. Roedd disgwyl i'r cyflenwad dŵr gael ei adfer erbyn dydd Iau i ddechrau ond cafwyd cyhoeddiad fore Gwener gan Dŵr Cymru y byddai angen 48 awr ychwanegol i adfer y cyflenwad. Mae preswylwyr wedi cael eu gadael heb wasanaethau hanfodol, ac mae hyn wedi achosi pryderon ynghylch yr effaith hir ar deuluoedd, ysgolion a busnesau.
Dywedodd Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymreig y Senedd, Darren Millar AS:
"Mae'r sefyllfa yn annerbyniol ac yn prysur droi’n argyfwng dyngarol.
"Dydy mamau babis bach ddim yn gallu cael gafael ar ddŵr wedi'i sterileiddio, dyw nifer o gartrefi gofal heb dderbyn unrhyw ddŵr potel i'r bobl fregus yn eu gofal, ac mae gofalwyr cartref a nyrsys ardal heb ddŵr i ymolchi pobl a thrin eu clwyfau.
"Dyw'r trefniadau wrth gefn ddim yn gweithio ac mae diffyg cyfathrebu Dŵr Cymru gyda thrigolion lleol yn achosi dryswch a gofid diangen.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod pobl yn gweithio'n galed ac mae peirianwyr yn gweithio'n ddiflino i drwsio pethau, ond mae angen i ni gael dŵr i'r rhai sydd ei angen, a hynny’n gyflym.
"Mae'r iawndal sy'n cael ei gynnig i gwsmeriaid preswyl a busnes yn warthus.
"Ar ôl i’r cyflenwad gael ei adfer mae'n hanfodol bod Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi o'r llanast yma felly rwyf wedi cyflwyno cwestiwn brys i'w drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf."
Cafwyd sylwadau hefyd gan Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, Janet Finch-Saunders AS:
"Rwy'n bryderus iawn fod y sefyllfa hon yn parhau ac rwy'n annog Dŵr Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
"Mae’n gwbl ddealladwy fod y rhesi hir mewn canolfannau casglu dŵr wedi achosi rhwystredigaeth i breswylwyr ac mae trigolion hŷn wedi drysu oherwydd nad yw Dŵr Cymru yn cyfathrebu’n glir heblaw am ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Cawsom addewid fod palet yn cyrraedd Llandudno bore ‘ma, oherwydd does dim darpariaeth yma o gwbl. Rwyf finnau a’r staff wedi aros ymlaen i helpu i ddosbarthu dŵr, ond mae'r sefyllfa'n parhau'n gwbl anhrefnus yn y mannau dosbarthu dŵr presennol ac rwyf wedi pwyso ar Dŵr Cymru BOD RHAID iddyn nhw roi mesurau gwell ar waith yn lleol.
"Mae'n hanfodol bod y mater hwn yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosib ac mae'n rhaid i Dŵr Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb am sicrhau bod cyflenwad dŵr pobl Conwy yn cael ei adfer."