Mae Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, wedi croesawu'r adolygiad o derfynau cyflymder ar sawl ffordd ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
Mae'r Cyngor wedi defnyddio meini prawf lleoedd a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i adolygu ffyrdd A a B 20mya ledled y sir ac mae bellach wedi llunio rhestr flaenoriaeth o'r darnau perthnasol o ffyrdd y byddant yn eu cyflwyno ar gyfer asesiad llawn.
Er bod Darren yn croesawu hyn, mae'n galw ar y cyngor i gwblhau'r broses cyn gynted â phosib.
Dywedodd:
“Ddylai cymaint o'n ffyrdd byth fod wedi cael eu pennu'n rhai 20mya yn y lle cyntaf, a dyna pam mae'r terfyn cyflymder wedi bod yn amhoblogaidd ymhlith y cyhoedd. Felly, rwy'n croesawu'r rhestr hon ac rwy'n gwybod y bydd gyrwyr y sir yn hefyd.
“Fodd bynnag, rhaid pwysleisio bod cynghorau eraill wedi cwblhau a gweithredu newidiadau eisoes, felly mae Cyngor Sir Conwy ar ei hôl hi yn anffodus. Felly, rwy'n galw ar swyddogion i gwblhau'r broses hon cyn gynted ag y gallant. Gorau po gyntaf y bydd y ffyrdd hyn yn dychwelyd i 30mya.”
Ychwanegodd:
“Er hynny, mae'n gwbl hurt bod cynghorau yn gorfod mynd drwy'r broses hon. Pe bai'r polisi hwn wedi'i ystyried yn well, ni fydden nhw’n gorfod treulio mwy o amser ac arian ar ddychwelyd cymaint o'n ffyrdd yn ôl i 30mya. Mae'n anghyfrifol i Lywodraeth Cymru fod mor wastraffus gydag arian trethdalwyr.”