Bydd swyddfa bost brysur yn Llandrillo-yn-rhos yn cael ei hadleoli gan ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn yr ardal.
Bydd cangen Swyddfa Bost Llandrillo-yn-rhos yn symud i Go Local yn 106-106A Rhodfa Penrhyn, Llandrillo-yn-rhos, Bae Colwyn, lle bydd yn gweithredu fel un o ganghennau lleol Swyddfa'r Post
Y rheswm am symud yw’r ffaith bod y postfeistr presennol wedi ymddiswyddo ac ni fydd y safle ar gael i'w ddefnyddio gan Swyddfa'r Post mwyach.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus dywedodd llefarydd ar ran Post Office Ltd:
“Ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd yn ofalus, rydyn ni’n parhau i fod yn hyderus y bydd cynllun a lleoliad y gangen newydd yn parhau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a darparu gwasanaeth rhagorol, tra'n sicrhau hyfywedd tymor hir gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y gymuned leol. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer symud a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn y gangen unwaith y bydd pawb wedi cytuno ar y dyddiadau.”
Wrth sôn am y symud, dywedodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar:
“Er y bydd y lleoliad newydd yn bellach i rai ac yn agosach i eraill, rwy'n hynod falch bod asiant newydd wedi'i benodi ac y bydd y gwasanaethau swyddfa bost prysur hyn yn cael eu diogelu yn yr ardal yn yr hirdymor.
“Mae canghennau Swyddfa'r Post lleol wrth galon cymunedau ar draws y Gogledd.
“Mae cwsmeriaid a busnesau bach yn dibynnu ar eu cangen leol bob dydd i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau. Bydd adleoli Swyddfa Bost Llandrillo-yn-rhos yn galluogi Swyddfa’r Post i gynnal gwasanaeth i'w cwsmeriaid o fewn y gymuned leol.”