Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn mewn ymgais i ysgafnhau'r pwysau ar ganolfannau achub anifeiliaid prysur yn y Gogledd.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Darren fod un ganolfan achub mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod ewthaneiddio anifeiliaid cwbl iach am eu bod nhw’n llawn.
Wrth godi'r mater yn y Datganiad Busnes, dywedodd Darren:
“A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am les anifeiliaid heddiw, yn benodol mewn perthynas â lles cŵn a chanolfannau achub cŵn?
“Fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, rwy'n berchennog balch milgi bach o'r enw Blue, sydd wedi'i achub. Bydd yn 15 oed y Nadolig hwn, ac mae'n agos iawn, iawn at fy nghalon. Ond rwy'n gwybod, o ymweliadau â chanolfannau achub yn y gogledd, eu bod nhw'n cael eu llethu'n llwyr ar hyn o bryd.
“Fe ges i e-bost wrth Almost Home, canolfan achub milgwn—sydd hefyd yn cymryd bridiau eraill hefyd, ond milgwn yn bennaf—ac maen nhw'n dweud eu bod nhw mewn sefyllfa bryderus iawn, iawn. Mae'r ganolfan achub yn llawn—maen nhw'n gorfod troi anifeiliaid i ffwrdd, ac, yn anffodus, maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod rhoi anifeiliaid hollol iach i gysgu oherwydd y niferoedd enfawr sy'n dod i'w drysau, gan gynnwys tor gyfan o gŵn bach.
“Mae hyn yn drasiedi. Mae angen i ni wneud rhywbeth i helpu i ddatrys y materion hyn, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn yn gyfrifol er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn.”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes), y byddai'n gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet “edrych ar hyn o ran canolfannau achub cŵn”.
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: