Mae clybiau, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol eraill yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn cael eu hannog i wneud cais i Gronfa PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru i helpu pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd pêl-droed rheolaidd.
Mae cronfa PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ac mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar yn awyddus i bobl ifanc yn yr etholaeth elwa arni.
Gellir gwneud cais i’r gronfa ar ran unrhyw chwaraewr ifanc, i'w gefnogi a'i gynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd a/neu gael offer pêl-droed.
Mae'r cais ar agor i bobl ifanc 5 – 18 oed sy'n byw yng Nghymru a bydd panel cenedlaethol yn penderfynu pwy fydd yn elwa drwy ddefnyddio gwybodaeth yn y ceisiadau i asesu pob achos.
Mae'r eitemau canlynol yn gymwys i gael cymorth drwy'r gronfa:
- Ffioedd aelodaeth clwb ar lawr gwlad
- Cit chwarae/clwb
- Esgidiau pêl-droed
- Gardiau crimog (shin pads)
- Menig gôl-geidwad
- Hijab chwaraeon
- Offer ar gyfer amhariadau penodol e.e. gogls chwaraeon
- Costau teithio e.e. costau trên, bws neu dacsi i leoliadau hyfforddi a gemau
Bydd y gronfa'n cefnogi plant a theuluoedd sydd â'r angen mwyaf. Bydd y gronfa’n cefnogi ymgeiswyr llwyddiannus yn flynyddol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at gyfleoedd pêl-droed rheolaidd.
Dyma'r meini prawf i wneud cais:
- Rhaid i'r chwaraewr fyw yng Nghymru.
- Rhaid i'r chwaraewr gael ei enwebu gan glwb/mudiad.
- Mae'n rhaid i'r clwb/mudiad fod wedi'i leoli yng Nghymru.
- Rhaid i'r chwaraewr fod rhwng 5 a 18 oed.
- Rhaid i'r chwaraewr chwarae i glwb neu fudiad yng Nghymru.
- Gall ysgolion yng Nghymru wneud cais ar ran disgybl neu ddisgyblion (noder: ni fydd citiau chwarae tîm ysgol yn cael eu hariannu).
Meddai Darren:
“Mae Cronfa PAWB yn fenter i gefnogi teuluoedd yn benodol a allai weld bod cost yn rhwystr rhag cymryd rhan yn y gamp.
“Gydol 2023/24 cefnogodd cronfa PAWB 339 o deuluoedd gan ddyfarnu dros £50,000 i gyfrannu at wneud y gamp yn fwy hygyrch.
“Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd a fyddai'n elwa ar y gronfa hon ac felly rwy'n annog clybiau, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau cymunedol eraill yng Nghonwy a Sir Ddinbych i wneud cais.”
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa ar gael yng Nghronfa PAWB - PAWB Cymru
Os ydych chi angen cymorth pellach i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â [email protected]