Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, a Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru wedi canmol yr ysbryd cymunedol a arweiniodd at fferyllfa yn Llandrillo-yn-rhos yn ailagor wedi tân mewn pum wythnos yn unig.
Yn ddiweddar aeth Darren a Sam i ailagoriad swyddogol Fferyllfa Rowlands yn Ffordd Rhos.
Cafwyd tân yn y fferyllfa bum wythnos yn ôl ond erbyn y diwrnod canlynol roedden nhw wedi llwyddo i symud i gangen arall gerllaw. O fewn wythnos roedden nhw'n cynnig gwasanaeth o gaban yn ôl yn Llandrillo-yn-rhos.
Cafodd y fferyllfa, yr unig un yn Llandrillo-yn-rhos ers i Boots gau ei ddrysau, ei hailwampio ddeufis yn ôl, i ddarparu lefel uwch o wasanaeth.
Meddai Darren:
“Hoffwn longyfarch pawb a helpodd i sicrhau na chafodd cymuned Llandrillo-yn-rhos ei gadael heb wasanaeth fferyllfa.
“Mae'n dda iawn gweld pobl yn dod at ei gilydd pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd ac mae’n dangos beth sy’n bosib. Da iawn bawb.”
Meddai Sam:
“Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ngwahodd i'r digwyddiad ail-agor a gallu llongyfarch pawb a gyfrannodd at helpu i ailagor drysau’r fferyllfa mewn cyn lleied o amser.
“Roedd hi’n galonogol clywed sut roedden nhw’n gallu gwasanaethu'r gymuned leol er gwaethaf y tân gyda chymorth y bwrdd iechyd lleol, meddygfeydd a fferyllfeydd eraill. Ar un cyfnod roedden nhw hyd yn oed yn gweithredu o gaban.
“Rhaid canmol y fferyllydd, Martyn Warren, ei staff a'i dimau rheoli am eu holl waith caled a sicrhau eu bod yn parhau i gynnig gwasanaethau ar gyfer y gymuned leol.”