Ar ôl cyfarfod â menyw fusnes ac awdur lleol yr wythnos diwethaf i glywed mwy am ei phrofiad o golli babi, heddiw yn Siambr y Senedd galwodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, am sicrwydd y bydd tystysgrifau colli baban ar gael yng Nghymru.
Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfu Darren â Melanie Gizzi, sylfaenydd OMG Fabulous, sydd wedi ysgrifennu pennod yn y llyfr 'She Empowers' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, lle mae'n sôn am daith ei beichiogrwydd, a oedd yn cynnwys triniaeth ffrwythlondeb a beichiogrwydd ectopig.
Mae 'She Empowers' yn flodeugerdd bwerus sy'n cyflwyno deg menyw anhygoel, pob un yn rhannu ei stori galonogol ei hun.
Yn ystod eu cyfarfod, bu Darren a Melanie yn trafod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o brofiadau menywod o golli baban.
Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ac yn y Datganiad Busnes heddiw, mynegodd Darren bryder bod tystysgrifau colli baban ar gael yn Lloegr a'r Alban, ond nid yng Nghymru.
Dywedodd:
"Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yr wythnos hon, ac mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, gan gynnwys Melanie Gizzi, awdur yn fy etholaeth i, i glywed am eu profiadau o ran colli babi.
"Un o'r pethau maen nhw wedi mynegi pryderon yn ei gylch yw diffyg tystysgrifau colli babanod, yn anffodus, yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y rhain wedi bod ar gael yn yr Alban ers mis Hydref diwethaf, ac yn wir yn Lloegr ers mis Chwefror, ac rwy'n credu ei bod yn bryd i Gymru ennill tir o ran hynny.
"Byddwn yn ddiolchgar os gallai Llywodraeth Cymru wneud datganiad ffurfiol ar ei dull o ymdrin â thystysgrifau colli babanod i sicrhau y gall y rhai sydd wedi dioddef profiadau mor boenus yng Nghymru gael y cyfle i gael tystysgrif colli babi i gydnabod eu colled."
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Ar ôl siarad â Melanie rai dyddiau yn ôl, mae gen i ddealltwriaeth lawer gwell o effaith ddinistriol colli babi ar fywydau pobl a pham mae cael tystysgrif colli baban mor bwysig i'r rhieni hyn.
"Mae Melanie yn ddynes ryfeddol ac mae hi'n adrodd ei stori’n rymus n y llyfr newydd 'She Empowers'.
"Er gwaethaf yr anawsterau y mae hi wedi'u hwynebu yn ei bywyd, mae hi bellach yn helpu eraill trwy ei busnes OMG FABULOUS, sy'n ceisio helpu menywod i 'deimlo'n ffab ar y tu mewn a'r tu allan'.
"Y llynedd, agorodd StudiOMG, cartref OMG FABULOUS, sy'n cwmpasu popeth o goetsio bywyd i harddwch, pob un yn canolbwyntio ar hunanofal a lles.
"Mae StudiOMG wedi'i leoli yn 1 Stryd y Dŵr, Abergele, ac rwy'n annog menywod yn yr ardal i fanteisio ar y gwasanaethau y mae'n eu darparu."
I ddarganfod mwy, dilynwch 'OMG Melanie Gizzi' ar Facebook.
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: