Mae Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder mawr na fydd un o’r prif atyniadau i dwristaidd yn y Rhyl ar agor ar gyfer yr haf.
Cyhoeddodd Denbighshire Leisure Limited yr wythnos hon na fydd SC2 ar agor am weddill 2024 oherwydd difrod i'w do, a achoswyd yn ystod tywydd garw ym mis Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Darren y bydd hyn yn cael effaith ddinistriol ar y Rhyl, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Wrth ymateb, dywedodd:
“Mae hyn yn newyddion cwbl ddinistriol i'r staff yn SC2, yr holl deuluoedd lleol sy'n defnyddio'r cyfleuster, yn ogystal â'r dref yn gyffredinol.
“Roedd y Rhyl yn dref dwristaidd brysur ar un adeg gyda chymaint i ddiddanu teuluoedd, ond yn anffodus dyw hynny ddim yn wir bellach.
“Pan agorodd SC2 i ymwelwyr am y tro cyntaf yn 2019, roeddwn yn obeithiol y byddai'n ddechrau dod â’r dref yn ôl i’w gogoniant, ond yn anffodus dyw hynny ddim wedi digwydd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf dydyn ni ddim wedi gweld dim heblaw cau atyniadau a mentrau aflwyddiannus yn y dref.
“Yn gynharach eleni, collodd y dref y Seaquarium poblogaidd, mae adeilad newydd Marchnad y Frenhines, a gostiodd £12.6 miliwn, yn dal i fod yn wag, a gadawyd plant yn ddigalon pan gaewyd y parc poblogaidd ar y promenâd er mwyn gallu gwneud gwaith ar amddiffynfeydd môr.
“Mae'n ymddangos nad yw’r Cyngor Sir presennol dan arweiniad Llafur yn ystyried dim byd yn iawn ac o ganlyniad mae'r dref glan môr ffyniannus hon yn colli ymwelwyr di-rif.
“Mae trefi cyfagos Towyn a Phrestatyn yn ffynnu, a gallai'r Rhyl fod felly hefyd gyda'r weledigaeth gywir a phenderfyniad i lwyddo.
“Mae ganddi un o'r traethau gorau yng Nghymru ac mae yna fusnesau gwych yno o hyd, fel Harker's Amusements a'r Kite Surf Café, ond mae pobl sy’n ystyried dod yma am y diwrnod neu am wyliau angen gwybod y bydd digon i'w cadw'n ddiwyd ym mhob tywydd.
“Heb os, bydd cau SC2 am weddill eleni yn taro'r dref yn galed gyda phobl yn dewis mynd i rywle arall.
“Mae'n drueni mawr fod y Rhyl wedi colli ei phwll padlo poblogaidd i SC2, ni ddylai hynny fyth fod wedi cael digwydd. Pe bai'n dal i fod yn atyniad annibynnol, gallai teuluoedd heidio yno dros yr haf o leiaf.
“Rwy'n gwybod nad fi yw'r unig un sydd wedi cael ei siomi'n ddifrifol gan y diffyg cynnydd yn y Rhyl yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae trigolion wedi diflasu ar yr esgusodion gan Denbighshire Leisure a Chyngor Sir Ddinbych, maen nhw wedi cael llond bol o’r diffyg cynnydd, ac maen nhw wedi cael digon ar ddarllen adroddiadau negyddol i'r wasg am dref yr oedden nhw’n arfer bod yn falch o'i galw'n gartref.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Justine Evans, sy’n cynrychioli Dwyrain y Rhyl:
“Roeddwn i’n hynod siomedig o glywed na fydd SC2 ar agor yr haf hwn ac am weddill 2024.
“Sut ar y ddaear allwn ni ddisgwyl i bobl fod eisiau ymweld â'n tref os nad oes dim byd yma iddyn nhw ei wneud?
“Wrth i mi ymateb i gyhoeddiad Denbighshire Leisure am gau SC2, mae'n annhebygol y bydd unrhyw un sy'n ymweld â'r Rhyl eleni yn dod yn ôl!”