Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi croesawu'r newyddion y bydd tri phwll padlo arfordirol, gafodd eu cau i'w hadnewyddu y llynedd, yn ailagor yfory.
Yn gynnar yn 2023 cyhoeddodd Cyngor Sir Conwy na fyddai'r pyllau padlo yn Llandrillo-yn-Rhos, Llanfairfechan, a Phenmaenmawr yn cael eu llenwi'r flwyddyn honno gan fod angen gwneud gwaith adnewyddu.
Roedd oedi wrth iddyn nhw gael trafferth dod o hyd i gontractwr, a galwodd Darren dro ar ôl tro ar y cyngor i sicrhau bod y pyllau padlo poblogaidd yn cael eu hailagor cyn gynted â phosib.
Er ei fod wedi cymryd mwy o amser na’r gobaith, roedd Darren yn falch o glywed gan y cyngor yn gynharach heddiw y bydd y tri phwll yn agor eto yfory (17 Mai).
Meddai:
“Mae'r tri phwll padlo’n hynod boblogaidd a gwelwyd eu heisiau’n fawr y llynedd, felly rwyf wrth fy modd bod dyddiad agor wedi'i roi erbyn hyn ac y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau'r pyllau cyhoeddus am ddim hyn unwaith eto.
“Er bod pawb yn gwerthfawrogi bod angen gwneud gwaith ar gyfleusterau o'r fath o bryd i'w gilydd, dydw i ddim yn credu bod neb wedi rhagweld pa mor hir y byddai'n ei gymryd ac y byddai'r tri phwll ar gau drwy gydol yr haf.
“Rwy'n gwybod bod y contractwyr wedi gweithio'n eithriadol o galed ac rwy'n diolch iddyn nhw am eu holl ymdrechion ac am sicrhau y bydd y pyllau padlo ar agor mewn pryd ar gyfer gŵyl y banc a hanner tymor sydd i ddod.
“Rwy'n siŵr y bydd y newyddion y byddan nhw'n agor eto yn lledaenu'n gyflym, yn enwedig o ystyried eu bod yn dri o ddim ond pum pwll padlo cyhoeddus am ddim yn y Gogledd.
“Rwy'n gobeithio y bydd y tywydd yn garedig fel y gall teuluoedd o bell ac agos fanteisio i'r eithaf ar y pyllau rhad ac am ddim hyn unwaith eto.”