Mae AS Gorllewin Clwyd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a Chadetiaid, Darren Millar, wedi ymweld â chanolfan yng Nghasnewydd sy'n helpu cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu sy'n dychwelyd o Irac ac Affganistan ac wedi cymeradwyo'r “gwaith eithriadol” maen nhw'n ei wneud.
Fe deithiodd Darren i ganolfan Battle Back, Lilleshall, Casnewydd, ddydd Llun i ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael yno.
Sefydlwyd y ganolfan gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ac mae 7,137 o bersonél sydd wedi'u clwyfo, eu hanafu neu'n sâl, wedi defnyddio'r ganolfan ers iddi gael ei hagor yn swyddogol yn 2012.
Eu nod yw helpu i sicrhau'r adferiad gorau posibl i gymuned y lluoedd arfog, p'un a ydyn nhw'n dychwelyd i'w dyletswyddau neu'n trosglwyddo'n llwyddiannus i fywyd sifil.
Yn ogystal â pharhau i gynorthwyo personél sydd wedi’u hanafu ac sy’n sâl, maen nhw wedi ehangu'r gwasanaeth yn ddiweddar trwy gyflwyno cyrsiau llesiant i gyn-filwyr. Mae'r cyrsiau'n canolbwyntio ar weithgareddau chwaraeon a hyfforddiant anturus addasol, fel pêl-fasged cadair olwyn, saethyddiaeth, beicio mynydd, dringo ac ogofa – mae Battle Back yn helpu i feithrin cyfeillgarwch yn ogystal â'r cyfle i gysylltu trwy brofiadau a rennir.
Nod y rhaglen yw helpu i fagu hyder a gwella cymhelliant yn ogystal â'r gallu i ymdopi â straen. Caiff ei chyflwyno ochr yn ochr â hyfforddiant arbenigol, ac mae’n helpu i ddatblygu meddwl positif hefyd – gan ganolbwyntio ar yr hyn mae rhywun yn gallu ei gyflawni yn hytrach na'r hyn na all ei gyflawni.
Mae Canolfan Battle Back yn cynnal hyfforddiant a chyrsiau hefyd ar gyfer dewis mabolgampwyr ar gyfer Gemau Rhyngwladol Invictus. Bydd y gemau nesaf yn cael eu cynnal yng Nghanada ym mis Chwefror 2025.
Wrth siarad ar ôl ei ymweliad, dywedodd Darren:
“Roeddwn i'n falch o'r cyfle i ymweld â chanolfan Battle Back a dysgu mwy am y gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud yno.
“Heb os, mae'r gefnogaeth a'r cyfleoedd maen nhw'n eu darparu i filwyr sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr, yn newid bywydau.
“Pan mae llawer yn mynd i'r ganolfan am y tro cyntaf, maen nhw ar ymyl y dibyn go iawn, gan gredu bod eu dyddiau gorau wedi mynd heibio – ond mae'r Ganolfan yn cydweithio'n agos â nhw i lunio cynllun adfer a'u cynorthwyo bob cam o'r ffordd.
“Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan hyfforddwyr a gweddill y tîm yn rhagorol ac rwy'n diolch i bob un ohonynt am bopeth maen nhw'n ei wneud i gynorthwyo ein personél gwasanaeth clwyfedig.”
Dywedodd Chris Joynson, Rheolwr Gweithrediadau Adfer yng Nghanolfan Battle Back, a wasanaethodd am dros 36 mlynedd yn y Fyddin ac a fu’n rhedeg Uned Adferiad Personél yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr:
“Mae athrylith Canolfan Battle Back yn mynd yn ôl i rhwng 2008 a 2010, pan oedden ni'n derbyn llawer o bobl wedi'u hanafu o ddau gyrch mawr gefn wrth gefn yn Irac ac Afghanistan.
“Fe'i hagorwyd yn swyddogol yn 2012 ac ers hynny rydyn ni wedi bod yn cynnal cyrsiau ar gyfer dynion a menywod sydd wedi'u clwyfo, eu hanafu ac sy’n sâl o'r tri gwasanaeth yn eithaf cyson.”
Os hoffech chi ddysgu mwy am ein Canolfan Battle Back, ffoniwch y tîm ar 01952 815 670 ar gyfer personél sy'n gwasanaethu neu 01952 815681 i gyn-filwyr.