Mae Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, wedi croesawu'r newyddion bod gwasanaeth bws sy'n gwasanaethu ei etholwyr yn Llandegla, Sir Ddinbych, gafodd ei ddileu yn gynharach eleni, i'w adfer.
Roedd y trigolion yn siomedig yn gynharach eleni pan gyhoeddodd Arriva na fyddent yn gwasanaethu pentref Llandegla mwyach ar ôl adolygu ei amserlen a'i ddarpariaeth gwasanaeth yn y Gogledd oherwydd terfyn cyflymder newydd Llywodraeth Lafur Cymru.
Cododd Darren, ynghyd â'r Cynghorydd lleol Terry Mendies, y mater gyda'r cyn-Brif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Sir Ddinbych wledig.
Yn siambr y Senedd, galwodd Darren hefyd ar Ddirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth i wneud datganiad ar “y camau mae'n eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith andwyol y gostyngiad yn y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig o 30mya i 20mya ar wasanaethau bysiau”.
Felly, roedd yn falch pan gyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych ei fod wedi cael cymeradwyaeth gan holl awdurdodau'r Gogledd i ddefnyddio cyfran o Gyllid Pontio Bysiau eleni i gynorthwyo gyda'r newid a wnaed i'r gwasanaeth hwn.
Cytunodd Arriva y gallent redeg siwrnai gyntaf ac olaf gwasanaeth X51 i mewn ac allan o Landegla, a darparodd Cyngor Sir Ddinbych fws mini dros dro i redeg yr amserlen rhyngddynt.
Yr wythnos hon, mae Darren yn deall bod bws mini Zenith sy'n mynd i bentref Llandegla wedi'i ymestyn tan 29 Mehefin, ac y bydd yn dod i ben wedyn.
Ar ôl y cyfnod hwn, yn dilyn proses dendro ledled y rhanbarth, dywedwyd wrtho y bydd Llandegla yn rhan o wasanaeth bws X51, gyda'r bws yn mynd i mewn i'r pentref fel yr oedd cynt, o ddydd Llun 1 Gorffennaf 2024.
Wrth ymateb, dywedodd Darren:
“Mae'n newyddion gwych, a dwi wrth fy modd bod y pryderon a godais ar ran trigolion wedi cael eu hystyried yn llawn ac y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau am gyfnod amhenodol yn sgil hynny.
“Mae trigolion wedi bod yn poeni’n arw am ddyfodol y gwasanaeth hwn. Er eu bod yn falch o weld y gwasanaeth bws mini dros dro, roeddent yn ymwybodol y byddai'n anochel y byddai'n dod i ben ac yn poeni y byddent yn cael eu gadael heb wasanaeth unwaith eto.
“Felly, byddan nhw'n rhoi croeso mawr i'r newyddion bod ateb parhaol wedi'i ganfod a bod gwasanaeth bws y pentref wedi'i ddiogelu.
“Diolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o sicrhau'r canlyniad cadarnhaol hwn ac edrychaf ymlaen at weld y gwasanaeth ar waith unwaith eto.”