Mae AS Gorllewin Clwyd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, Darren Millar, wedi galw am fwy o gefnogaeth mentora gan gymheiriaid i gyn-filwyr yma yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae cael gafael ar gymorth o'r fath yn fater o loteri cod post, ond wrth godi'r mater yn y Senedd, dywedodd Darren y bydd sicrhau bod mentoriaid ar gael i gyn-filwyr ledled Cymru yn arbed arian yn yr hirdymor.
Gan alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Iechyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, dywedodd Darren:
“Gwyddom fod cyn-filwyr yn gwerthfawrogi gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn fawr, ac yn y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog, yr wythnos diwethaf, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth gan Neil Kitchener, y clinigwr arweiniol.
“Un o'r heriau sydd gan y gwasanaeth hwnnw yw bod diffyg cymorth mentora gan gymheiriaid ar gael yng Nghymru yn awr, ac mae'n dipyn o loteri cod post o ran a yw'r mentoriaid hynny'n rhan o wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr.
“Roedd y Grŵp Trawsbleidiol yn teimlo, ei bod yn bwysig iawn cael y mentoriaid cymheiriaid hynny o fewn y GIG yng Nghymru, ym mhob bwrdd iechyd. Byddai hynny'n costio tua £0.5 miliwn y flwyddyn. Rwy'n gwybod bod arian yn brin, ond mae hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil gan ein bod yn gwybod bod cyn-filwyr sy'n dioddef o bethau fel PTSD yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus ac yn gallu defnyddio cryn dipyn o wasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd eraill.”
Dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, wrth Darren y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog “yn edrych ar hyn”.