Mae Darren Millar AS yn annog pobl ifanc dalentog ym maes chwaraeon, addysg a'r celfyddydau yn Sir Conwy i wneud cais am arian grant i'w helpu i gyrraedd eu potensial.
Mae croeso i geisiadau ar gyfer rownd ddiweddaraf 'Cronfa Ragoriaeth Conwy' y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r gronfa’n darparu cymorth grant i bobl dan 30 oed sydd naill ai'n cystadlu ar lefel genedlaethol mewn chwaraeon neu sy'n dalentog yn y celfyddydau, dawns, cerddoriaeth, drama ac addysg.
Gan annog pobl ifanc cymwys i wneud cais, dywedodd Darren:
“Mae gennym lawer o bobl ifanc dalentog yn yr holl feysydd hyn ar hyd a lled Conwy, ac rwy'n awyddus iddyn nhw wybod am y cyfle cyffrous hwn i'w helpu i gyrraedd eu nod.
“Mae modd defnyddio'r cyllid ar gyfer cymorth o bob math gan gynnwys prynu offer, hyfforddiant, teithio neu lety.
“Dwi'n gwybod bod costau ariannol y gweithgareddau hyn yn gallu atal rhai rhag symud ymlaen a chyrraedd eu potensial, sy'n drueni mawr.
“Mae grantiau o hyd at £800 ar gael a byddant yn helpu i sicrhau nad yw ein pobl ifanc dawnus yn cael eu dal yn ôl.
“Dyfarnwyd y Gronfa i 35 o bobl yn 2023/24 ac rwy'n siŵr y bydd yr un mor boblogaidd eleni.
“Mae ceisiadau ar gyfer y cylch ariannu presennol ar agor tan 10 Mehefin felly da chi ewch ati i wneud cais.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ragoriaeth a manylion am sut i wneud cais ar wefan Conwy.