Wrth ymateb i'r newyddion bod esgeulustod wedi arwain at farwolaeth dyn mewn uned iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru:
“Mae hwn yn achos hynod o drist ac mae fy nghalon i'n gwaedu dros anwyliaid Ben.
“Ni ddylai pethau fel hyn ddigwydd mewn Bwrdd Iechyd sydd wedi bod yn destun Mesurau Arbennig Llywodraeth Cymru ac ymyriadau wedi'u targedu am gyfnod mor hir.
“Mae'n gwbl amlwg nad yw Llywodraeth Cymru’n gallu darparu'r gwasanaethau iechyd meddwl gwell sydd eu hangen yn y Gogledd. Mae angen ymchwiliad annibynnol arnom i roi'r atebion y mae teuluoedd mewn profedigaeth yn eu haeddu.”
Dywedodd Sam Rowlands AS, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid:
“Mae hwn yn achos mor drasig y gellid bod wedi'i osgoi yn hawdd.
“Mae'r achos diweddaraf hwn o ddiffyg gofal gan y bwrdd iechyd yn warthus ar ôl degawdau o golli cyfleoedd, a bydd trigolion y Gogledd yn gofyn faint mwy o'r cyfleoedd coll hyn y mae'n rhaid i'r teuluoedd eu dioddef cyn i wersi gael eu dysgu.
“Mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld ein GIG yng Nghymru gydag adnoddau llawn, gyda phob ceiniog a geir gan Lywodraeth y DU ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar iechyd.”