Mae ailddatblygiad gwerth £10m mewn coleg seiliedig ar y tir blaenllaw wedi cael ei gymeradwyo gan ddau wleidydd a ymwelodd â'r safle yr wythnos ddiwethaf.
Aeth AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar ac Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies, i Goleg Llysfasi, ger Rhuthun, ddydd Gwener gan fynd ar daith o amgylch eu cyfleusterau newydd - cyfadeilad addysg carbon-niwtral o'r radd flaenaf, 1,095 metr sgwâr sy'n cael ei adeiladu gan Read Construction o Wrecsam.
Bydd y cyfleusterau modern yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a mannau cyfarfod, caffi, canolfan addysg uwch, canolfan les a mwy.
Mae'r gwaith diweddaraf yn dilyn agor canolfan addysg wledig gwerth £1.2 miliwn y coleg dair blynedd yn ôl,
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Darren:
"Roedd Llysfasi eisoes yn sefydliad trawiadol cyn yr ailddatblygiad hwn, gan eu bod yn arweinwyr y diwydiant ym maes addysg ar y tir. Mae ganddyn nhw enw da sydd wedi hen ennill ei blwyf ym maes Amaethyddiaeth, Peirianneg Amaethyddol, Cefn Gwlad a Choedwigaeth.
"Yn ogystal â'r adeilad newydd, mae'r ailwampio cyffredinol yn Llysfasi yn cynnwys tirlunio a theithiau cerdded drwy’r coedwigoedd, ac mae yna ddigwyddiadau gwybodaeth dwyieithog a sesiynau cynghori i fentora ffermwyr lleol sy'n dymuno arallgyfeirio a datblygu eu prosesau masnachol eu hunain hefyd ar y gweill.
"Er nad yw'r ailddatblygiad wedi'i gwblhau eto, roedd yn dda gweld yn ystod ein hymweliad yr hyn sydd wedi'i wneud hyd yma. Roedd hi’n fwy nag amlwg y bydd hwn yn gyfleuster trawiadol iawn pan fydd yn barod a diolch i Goleg Cambria am sicrhau’r buddsoddiad hwn a fydd o fudd i ddysgwyr lu yn y Gogledd."
Meddai James:
"Roedd hi’n wych cael y cyfle i ymweld â'r coleg i weld y gwaith sydd wedi’i wneud ar y cyfleusterau newydd.
"Mae'r ailddatblygiad mawr yn drawiadol dros ben ac yn dangos ymrwymiad Coleg Cambria i gefnogi ei ddysgwyr a'r gymuned amaethyddol ehangach yn llawn wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar ffermio cynaliadwy i’r dyfodol.
"Mae darpariaeth addysg Llysfasi o safbwynt amaethyddiaeth, peirianneg amaethyddol, cefn gwlad a choedwigaeth yn bwysig iawn i'r ardal leol.
"Mae disgwyl i'r cyfleuster newydd agor ym mis Hydref eleni ac rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd unwaith y bydd yn agored i weld y gwaith gorffenedig."