Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi ymweld â Mosg yng Ngogledd Cymru ar ôl estyn allan iddyn nhw yn dilyn y rhethreg wrth-Fwslimaidd a’r ymosodiadau treisgar, llawn casineb yn erbyn ac yng nghyffiniau mosgiau yn y DU yn ystod yr haf.
Yn ôl ym mis Awst, ysgrifennodd Darren at Gyngor Mwslimaidd Cymru i ddangos ei gefnogaeth i'r gymuned Fwslimaidd yng ngoleuni'r teimlad gwrth-Fwslimaidd ledled y DU, a dydd Gwener diwethaf roedd yn falch o ymweld â Mosg Canolfan Iman yng Nghyffordd Llandudno i gwrdd ag arweinwyr Mwslimaidd lleol a chynrychiolwyr Cyngor Mwslimaidd Cymru, a chael dysgu mwy am y ganolfan.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd:
"Roedd hi’n bleser mawr ymweld â Chanolfan Iman a diolch i bawb am eu croeso twymgalon.
"Roedd yr hyn a welsom ledled y DU yn yr haf yn frawychus ac roeddwn yn dorcalonnus, nid yn unig dros y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw’n uniongyrchol gan y terfysgoedd, ond hefyd dros y gymuned Fwslimaidd gyfan.
"Ar y pryd roeddwn i'n gweddïo dros ffrindiau a chymdogion Mwslimaidd ledled Cymru ac roeddwn i eisiau iddyn nhw wybod bod ganddyn nhw gefnogaeth.
"Mae llawer o’r rhai sy'n rhan o'r protestiadau yn galw eu hunain yn wladgarwyr ac yn dadlau bod lefelau uchel o fewnfudo wedi tanseilio cymdeithas Prydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Eto i gyd, datgelodd arolwg barn YouGov fod tri chwarter y rhai a holwyd yn dweud nad oedd y terfysgwyr yn cynrychioli barn Prydain gyfan. Dim ond 7% ddywedodd eu bod yn cefnogi'r trais.
"Fel person o ffydd, rwy'n sefyll gyda phob Mwslim ac yn condemnio casineb ac Islamoffobia o'r fath ble bynnag y mae'n digwydd."