'Lladdwr tawel' – dyna mae pobl yn galw carbon monocsid, gan na allwch ei weld, ei arogli na'i flasu. Mae'n lladd tua 40 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, yn achosi i 200 a mwy fynd i'r ysbyty bob blwyddyn, ac mae 4,000 o bobl eraill angen sylw meddygol brys o ganlyniad i wenwyno CO.
Y ffynhonnell fwyaf arwyddocaol o garbon monocsid i'r cyhoedd yw coginio neu gyfarpar arall sy’n llosgi tanwydd, megis boeleri cartref a llosgwyr coed. Mae risgiau gwenwyn carbon monocsid yn cynyddu os yw'r cyfarpar wedi'i osod yn wael, yn ddiffygiol neu'n cael ei ddefnyddio'n amhriodol heb awyru digonol.
Mae gwenwyno CO yn digwydd pan fyddwch chi'n anadlu hyd yn oed ychydig bach iawn o'r nwy gwenwynig hwn. Mae hyd yn oed lefelau isel o'r nwy dros gyfnod hir yn gallu achosi problemau iechyd difrifol, fel niwed niwrolegol parhaol.
Mae ystadegau gan fap nwyon diogel Gas Safe Registers yn dangos rhai pryderon brawychus:
• Mae 1 o bob 6 boeler sy'n cael eu harolygu gan Gas Safe Register yn anniogel
• Mae 1 o bob 2 tân nwy sy’n cael eu harolygu gan Gas Safe Register yn anniogel
• Mae 1 o bob 6 popty sy’n cael eu harolygu gan Gas Safe Register yn anniogel. O'r cwsmeriaid hynny yr ymatebodd Wales and West Utilities i alwadau carbon monocsid ganddynt, roedd 56% o larymau carbon monocsid naill ai'n ddiffygiol neu wedi dod i ben. Nid oes gan 16% o aelwydydd unrhyw larwm carbon monocsid.
Mae Wales and West Utilities, y rhwydwaith dosbarthu nwy sy'n gwasanaethu cartrefi a busnesau ledled Gogledd Cymru, yn annog pawb i ddefnyddio'r adeg hon o'r flwyddyn i wirio bod ganddyn nhw larwm carbon monocsid clywadwy ac atgoffa teulu a ffrindiau i wirio hynny – er mwyn helpu pawb i gadw'n ddiogel gyda nwy y gaeaf hwn.
Nod Wales and West Utilities yw gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o symptomau ac arwyddion carbon monocsid a beth i'w wneud os ydyn nhw'n sylwi ar yr arwyddion hynny. Felly, mae'r cwmni'n cynnal ymgyrch i addysgu pobl am symptomau gwenwyn carbon monocsid, ac arwyddion o amgylch y cartref, oherwydd nid pawb sy'n gallu fforddio larymau carbon monocsid a gwiriadau diogelwch nwy blynyddol.
Mae thema'r ymgyrch ar gyfer 2024 yn seiliedig ar eu gêm garbon monocsid ryngweithiol ar-lein o'r enw 'Crack the Code'.
Mae symptomau gwenwyn carbon monocsid yn cynnwys:
• Cur pen
• Blinder
• Cyfog
• Pendro
• Syrthni
• Diffyg anadl
• Colli ymwybyddiaeth mewn achosion eithafol.
Mae'n hawdd camgymryd ei symptomau am wenwyn bwyd a'r ffliw, gan eu bod nhw mor debyg.
Camau i atal gwenwyn CO:
• Cael larwm carbon monocsid clywadwy ym mhob ystafell sydd ag offer nwy a'i brofi'n rheolaidd.
• Gofalu bod eich holl offer nwy yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe, a'i fod yn gwirio eu diogelwch, bob blwyddyn. Os ydych chi'n rhentu'ch cartref, gofynnwch am gopi o gofnod diogelwch nwy (Gas Safe Record) cyfredol eich landlord.
• Adnabod arwyddion carbon monocsid: cadwch lygad am offer nwy sy'n llosgi'n felyn neu oren llipa, nid clir a glas; goleuadau peilot ar foeleri yn diffodd yn aml; anwedd ychwanegol y tu mewn i'ch ffenestr; olion huddygl neu staeniau melyn o amgylch offer.
• Adnabod symptomau gwenwyn carbon monocsid: yn debyg i'r ffliw neu wenwyn bwyd heb dymheredd uchel.
• Os yw'ch larwm yn canu, neu os ydych chi'n amau carbon monocsid, gweithredwch ar unwaith: ewch allan i'r awyr iach, gan agor drysau a ffenestri led y pen wrth fynd. Yna ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy ar 0800 111 999. Mewn argyfwng meddygol, peidiwch ag oedi, ffoniwch 999 ar unwaith.
Dylech drefnu bod eich offer yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe - mae rhestr o beirianwyr cofrestredig Gas Safe ar gael yn: www.gassaferegister.co.uk.
Os ydych chi'n defnyddio tanwydd solet, cofiwch sicrhau bod rhywun yn glanhau eich simnai a'ch ffliwiau bob blwyddyn hefyd.
Prynwch larwm clywadwy wedi'i ardystio i Safon Brydeinig BS EN 50291. Mae'r rhain yn costio tua £15 a gallwch eu prynu o'ch siop DIY, archfarchnad neu gyflenwr ynni lleol. Cofiwch, mae larymau’n bwysig ond nid ydynt yn cymryd lle archwiliadau diogelwch blynyddol.
Trwy ddilyn y camau syml hyn a rhannu gwybodaeth gyda theulu, ffrindiau a chymdogion, gallwn ni gyd helpu i achub bywydau.