Bu Darren Millar yn helpu’r elusen Breast Cancer Now i hyrwyddo eu diwrnod codi arian blynyddol cenedlaethol 'Diwrnod Gwisgo Pinc/Wear it Pink' yr wythnos hon trwy gyfnewid ei ddillad arferol am rywbeth pinc.
Gwisgodd Darren het gowboi binc i ddangos ei gefnogaeth i 'Diwrnod Gwisgo Pinc' yn nigwyddiad Breast Cancer Now yn y Senedd ddoe.
Mae 'Diwrnod Gwisgo Pinc' yn un diwrnod pan fydd miloedd o bobl yn dod at ei gilydd mewn gweithleoedd, ysgolion, cartrefi a chymunedau ledled y DU i wisgo pinc, codi arian a dangos eu cefnogaeth i Breast Cancer Now. Eleni bydd yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 18 Hydref.
Meddai Darren:
"Mae'r ymgyrch codi arian 'Gwisgo Pinc' yn gyfle gwych i gymunedau ledled y DU ddod at ei gilydd a chael hwyl, gan ddangos eu cefnogaeth i bawb y mae canser y fron yn effeithio arnyn nhw. Yn syml drwy wisgo rhywbeth pinc a chyfrannu, mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn codi arian ar gyfer ymchwil sy'n achub bywydau ac yn helpu Breast Cancer Now i gyrraedd ei nod, sef erbyn 2050, y bydd pawb sy'n datblygu canser y fron yn byw.
"Yn ogystal â chodi arian mawr ei angen ar gyfer ymchwil a chymorth canser y fron sy'n newid bywydau, mae'r digwyddiad hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron, ei symptomau, a phwysigrwydd sgrinio.
"Mae'n bwysig ein bod yn annog mwy o fenywod i gael prawf sgrinio canser y fron, yn enwedig gan fod nifer y bobl sy'n cymryd rhan wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai 67.1% o bobl aeth i’w hapwyntiad sgrinio ar y fron pan gawson nhw’r gwahoddiad yn 2020/21 yng Nghymru, i lawr o 73.2% yn 2011/12. Mae hyn yn is na'r safon ofynnol o 70%, gyda'r targed wedi'i osod ar 80%.
"Yn 2020/21, mynychodd 46% o’r menywod yng Nghymru a wahoddwyd ar gyfer eu hapwyntiad sgrinio’r fron cyntaf. Mae menywod nad ydyn nhw’n mynychu eu hapwyntiad sgrinio cyntaf yn llai tebygol o wneud hynny yn y dyfodol. Roedd yn galonogol clywed bod 68.2% o fenywod wedi mynd i apwyntiad sgrinio ar y fron pan gawson nhw eu gwahodd yn 2020/21 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er bod hyn yn dal yn is na'r targed.
"Pryder oedd clywed mai dim ond 57.3% o gleifion yng Nghymru a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o amau canser y fron am y tro cyntaf (Ionawr – Mehefin 24), sy'n is na'r un cyfnod yn 2023. Mae hyn yn is na'r targed o gael o leiaf 75% o gleifion yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod o amau canser am y tro cyntaf. Yn BIPBC dechreuodd 68.4% o gleifion ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o amau canser y fron am y tro cyntaf (Ionawr - Mehefin 2024).
"Rwy'n annog pobl yng Ngorllewin Clwyd i gefnogi Diwrnod Gwisgo Pinc eleni. Yn syml drwy wisgo rhywbeth pinc a chyfrannu, rydych chi'n codi arian ar gyfer ymchwil sy'n achub bywydau."