Cyrhaeddodd ugain aelod o Goleg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn (RCDS) o 12 gwlad y Senedd yr wythnos hon ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd gan AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar.
Cafodd yr ymwelwyr o’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Pacistan, Saudi Arabia, Bosnia a Herzegovina, y DU, Norwy, India, yr Iseldiroedd, Moroco, Indonesia, Guyana, ac UDA ginio gwaith gyda phum Aelod o’r Senedd i drafod themâu gwleidyddiaeth, llywodraeth ddatganoledig, diwygio'r llywodraeth a gwaith trawsbleidiol.
Mae'r Coleg yn hyfforddi uwch swyddogion addawol y lluoedd arfog, y gwasanaeth diplomyddol a'r gwasanaeth sifil mewn ar faterion amddiffyn gwladol a diogelwch rhyngwladol, i'w paratoi ar gyfer swyddi ar y lefel uchaf.
Dechreuodd eu taith astudio i Gymru eleni yn Wrecsam ac ar ôl teithio drwy Gymru fe wnaethant orffen yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Yn siarad ar ôl cynnal y digwyddiad yn y Senedd, dywedodd Darren, sy'n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a Chadetiaid:
“Roedd yn bleser mawr croesawu'r aelodau i'r Senedd ac roeddwn i’n falch o glywed eu bod wedi cael taith mor dda o amgylch Cymru.
“Amcanion dysgu'r daith astudio oedd deall llywodraethu rhanbarthol a'i berthynas â llywodraeth ganolog y DU, asesu economi'r DU ar lefel ranbarthol a sut mae'n cyfrannu at economi'r wlad, datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau diwylliannol gwahanol rhanbarthau'r DU, a dadansoddi'r gwahanol safbwyntiau rhanbarthol ar faterion allweddol sy'n wynebu sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant y DU.
“Cawsom drafodaeth ardderchog gyda'r aelodau yn y cinio, a gobeithio y bydd ein gwesteion yn gadael gyda gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o Gymru, ein perthynas â gweddill y DU, a'r Senedd.”