Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau bod gwastraff domestig yn cael ei gasglu yn ôl yr amserlen.
Daw hyn yn dilyn wythnosau o anrhefn i drigolion Sir Ddinbych, yn sgil system casglu gwastraff newydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol, sydd wedi gweld llawer o drigolion yn cael eu gadael heb gasgliadau gwastraff am wythnosau.
Wrth siarad yn y Senedd yr wythnos diwethaf, tynnodd Darren sylw at y cynnydd sylweddol mewn tipio anghyfreithlon sydd wedi deillio o'r diffyg casgliadau:
"Mae gwastraff yn mynd heb ei gasglu am hyd at saith wythnos yn eiddo rhai pobl ac, o ganlyniad i hynny, mae llawer o bobl yn cymryd camau i gael gwared ar y gwastraff o'u heiddo trwy dorri'r gyfraith a'i ddympio ar strydoedd, wrth ymyl biniau gwastraff cyhoeddus, ac mewn strydoedd cefn.
"Yn amlwg, mae hynny'n ymddygiad annerbyniol sydd angen mynd i'r afael ag ef, ond gwraidd hyn yw gweithrediad hurt y system ailgylchu newydd honno. " Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwastraff pobl yn cael ei gasglu'n aml, yn ôl yr amserlen, heb y math o broblemau y mae'n rhaid i drigolion Sir Ddinbych eu hwynebu?"
Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae ymgynghorwyr arbenigol Llywodraeth Cymru o WRAP Cymru a'r bartneriaeth leol yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i Gyngor Sir Ddinbych, ac mae hyn yn cynnwys nodi a chywiro'r gwastraff sydd heb ei gasglu a'r problemau sbwriel cysylltiedig a achoswyd gan y newidiadau diweddar.
"Bydd y gefnogaeth hon yn parhau hyd nes y bydd y mater yn cael ei ddatrys, ac rydyn ni’n parhau i fonitro'r sefyllfa."
Ychwanegodd: "Dyw'r problemau sy’n wynebu pobl Sir Ddinbych ddim yn annhebyg i’r problemau y mae awdurdodau lleol eraill wedi mynd trwyddynt ar y daith tuag at wneud Cymru’n ail yn y byd o ran ailgylchu."
Wrth sôn am hynny, dywedodd Darren: "Rwy'n siomedig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi diystyru pryderon trigolion Sir Ddinbych fel hyn.
"Roedd cyfraddau ailgylchu yn Sir Ddinbych, o dan ei system biniau glas llawer symlach, eisoes yn uwch na llawer o awdurdodau lleol eraill Cymru a oedd wedi newid i'r system newydd.
"Dylai Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru wrando ar drigolion lleol a datrys y sefyllfa."