Gyda chyn-filwyr yn byw mewn pebyll, Airbnbs, a llety tymor byr ledled y Gogledd, mae AS Gorllewin Clwyd a Gweinidog Cysgodol Gogledd Cymru, Darren Millar, heddiw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i helpu i sicrhau cartref priodol iddynt.
Yn Siambr y Senedd heddiw, dywedodd Darren, sy'n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, ei bod yn "warthus" bod pobl a wasanaethodd ein gwlad yn y fyddin yn gorfod byw fel hyn.
Gan alw am Ddatganiad gan yr Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am ddigartrefedd o ran y problemau, dywedodd:
"Roeddwn i mewn cysylltiad â sefydliad cymorth digartrefedd yn y gogledd, a gydag Alabare UK, y mae’r ddau, wrth gwrs, yn gweithio ar faterion yn ymwneud â thai cyn-filwyr. Mae'n amlwg iawn i mi fod angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith cyn-filwyr.
"Mae cyn-filwyr digartref, yn anffodus, yn y gogledd ar hyn o bryd, sy’n byw mewn pebyll, mewn llety Airbnb, llety tymor byr, ac, yn amlwg, mae'n warthus nad oes gan bobl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn y lluoedd arfog urddas cartref priodol.
"Roeddwn i’n falch o weld Prif Weinidog y DU, yn ei araith i gynhadledd y Blaid Lafur, yn cyfeirio'n benodol at roi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr. Nawr, yn amlwg, dylai hynny gael canlyniadau yma yng Nghymru hefyd, a hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd nawr er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith y gymuned o gyn-filwyr yma yng Nghymru, o ystyried mai cyfrifoldeb datganoledig yw hynny, ac o ystyried yr ymrwymiad y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud."
Wrth ymateb, cyfeiriodd Trefnydd (Rheolwr Busnes) Llywodraeth Cymru, at y Datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf "ynghylch ffyrdd yr ydyn ni’n estyn allan i ddiwallu'r anghenion tai hynny yn ein cymunedau, yr ydyn ni’n cydnabod, wrth gwrs, y gallant gynnwys cyn-filwyr sy’n agored i niwed hefyd".
Ychwanegodd y Trefnydd:
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod gennym ni gyfamodau partneriaeth cadarn, pwysig iawn gyda'n hawdurdodau lleol ledled Cymru a gyda'n cyn-filwyr a'n lluoedd arfog hefyd o ran y trefniadau hynny. Felly, unwaith eto, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, rwy’n siŵr, yn cydnabod hynny o ran y ffordd rydyn ni’n ymateb gyda digartrefedd a'r Papurau Gwyn y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi’n fuan."
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Darren:
"Mae problem digartrefedd ymhlith cyn-filwyr wedi bod yn bwnc sydd wedi cael ei drafod yn ystafelloedd bwyta baricsau, ar ffrigadau, ac mewn canolfannau awyr ers diwedd rhyfeloedd Napoleon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. A 200 mlynedd yn ddiweddarach, er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae'n drist meddwl bod cyn-filwyr yn dal i gysgu ar y stryd yma yng Nghymru.
“Y peth lleiaf y gallwn ei wneud fel cymdeithas yw ad-dalu'r ddyled o ddiolchgarwch sy’n ddyledus i'r arwyr hyn sydd wedi gwasanaethu ein gwlad trwy eu cynorthwyo i sicrhau to uwch eu pennau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau cadarnhaol, ond dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell.”