
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru pam mae pobl yn y gogledd sydd â gradd nyrsio yn ei chael hi'n anodd cael gwaith pan mae cannoedd o nyrsys yn cael eu cyflogi o dramor.
Yng nghyfarfod Senedd Cymru y prynhawn yma, holodd Darren y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy AS, am gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â heriau recriwtio yn GIG Cymru.
Canolbwyntiodd yn benodol ar recriwtio nyrsys, gan ddisgrifio'r sefyllfa bresennol fel "sefyllfa ryfedd".
Dywedodd:
"Mae gennyf bobl sydd newydd gwblhau eu graddau nyrsio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd ac sy’n dweud wrthyf na allant gael swydd.
“Ni allant gael swydd, er bod cannoedd o nyrsys yn dod yma o dramor. Ac eto, ymddengys bod y GIG yn dibynnu'n fawr ar nyrsys asiantaeth hefyd.
“Mae honno'n sefyllfa ryfedd yn fy marn i, ac yn un y mae angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio iddi ar frys i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian i'r trethdalwyr, gan gofio bod y cyrsiau hyn yn cael eu hariannu gan drethdalwyr."
Gofynnodd Darren hefyd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon sydd am gau ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd a'r "effaith y gallai hynny ei chael ar y proffesiwn nyrsio yn ehangach, ar ddiogelwch cleifion ac, yn wir, ar bwrs y wlad yn y dyfodol".
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog:
"Ar y materion y mae eich trigolion yn eu hwynebu yn y gogledd, rwy'n awgrymu y dylech ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn benodol ynglŷn â hynny. Ond nid wyf am ei gyfuno â'r mater arall a godwyd gennych, nad wyf yn credu ei fod yn broblem; credaf ei fod yn newyddion da iawn, mewn gwirionedd: mae rhaglen recriwtio ryngwladol Cymru gyfan wedi llwyddo i recriwtio mwy na 1,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a addysgwyd yn rhyngwladol i weithlu GIG Cymru."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dywedodd Darren:
"Gall y Gweinidog hyrwyddo Rhaglen Recriwtio Ryngwladol Cymru gyfan gymaint ag y dymuna, ond y gwir amdani yw bod gennym bobl gymwys yma ar garreg ein drws sy'n siomedig ac yn rhwystredig na allant gael swydd ar ôl blynyddoedd o astudio. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen edrych arno mewn gwirionedd."