Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd wedi diolch i chwaraewyr y Loteri ar ôl clywed bod mwy o grwpiau cymunedol yn ei etholaeth wedi derbyn grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri.
Roedd Darren yn falch o glywed bod £665,604 wedi'i ddyfarnu i brosiectau cymunedol yng Ngorllewin Clwyd rhwng mis Rhagfyr 2023 a diwedd mis Mawrth eleni.
Enghreifftiau o brosiectau sydd wedi derbyn arian yw Together for Colwyn Bay Limited, sydd wedi derbyn £9,800, a'r North Wales Crusaders Foundation sydd wedi derbyn £19,746.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Darren:
“Dwi wrth fy modd bod prosiectau cymunedol yng Ngorllewin Clwyd yn cael budd o Gronfa Gymunedol y Loteri unwaith eto.
“Mae'r arian hwn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri, felly hoffwn ddiolch i bawb ohonyn nhw.
“Mae'r Gronfa Gymunedol yn dyfarnu grantiau i brosiectau ar lawr gwlad, yn ogystal â rhoi dyfarniadau mwy sylweddol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol mawr fel gwella iechyd meddwl, tlodi gwledig a mynd i’r afael â digartrefedd.
“Mae dyfarnu £665,604 yng Ngorllewin Clwyd mewn cyfnod o dri mis yn newyddion penigamp, a bydd yn galluogi'r prosiectau cymunedol hyn i barhau â'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i bobl o bob oed.”
I ddysgu mwy am Gronfa Gymunedol y Loteri a sut i wneud cais am gyllid, ewch i: Funding | The National Lottery Community Fund (tnlcommunityfund.org.uk)