Wrth siarad yn Nadl y Senedd ddoe ar Farw â Chymorth, pleidleisiodd AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn erbyn cynnig yn galw am newid y gyfraith ynghylch marw â chymorth yng Nghymru a Lloegr, a phwysleisiodd yr angen am fuddsoddi mewn gofal diwedd oes i wella profiadau pobl â salwch terfynol.
Er nad oes gan y Senedd y pŵer i newid y gyfraith, galwodd y cynnig ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r egwyddor o gynorthwyo i farw a chefnogi San Steffan i “gyflwyno deddf dosturiol i farw â chymorth yng Nghymru a Lloegr”.
Wrth siarad yn y ddadl emosiynol, dywedodd Darren y byddai cyfreithloni cymorth hunanladdiad yn anfon neges glir nad yw rhai bywydau yn werth eu byw.
Pwysleisiodd hefyd fod llawer o bobl anabl yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith yn y maes hwn.
Gan bwysleisio bod ei farn yn cael ei llywio a'i hategu gan ei ffydd Gristnogol a'i gydwybod, dywedodd Darren hefyd fod “cyfreithloni cymorth hunanladdiad yn llawn peryglon na fydd unrhyw newid yn y gyfraith byth yn gallu eu lliniaru.”
Meddai:
“Mae'n bwysig datgan hyn: mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yn Senedd y DU a'r Alban. Yno, mae'r rhai sy'n cefnogi newid yn y gyfraith yn ceisio cyfyngu cymorth hunanladdiad i'r rhai sydd â salwch angheuol, ond yma gofynnir i ni gefnogi'r farn y bydd cymorth hunanladdiad ar gael i unrhyw un yn ei lawn bwyll a chadarn ei ewyllys sy'n dioddef yn annioddefol, boed yn salwch angheuol ai peidio. Nid yw'r ymadrodd 'salwch angheuol' i'w weld yn unman yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw.
“Nawr, mae 'dioddefaint annioddefol' yn derm goddrychol. Fel y clywsom eisoes, lle cafodd ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, mae cymorth hunanladdiad yn cael ei ganiatáu ar gyfer pob math o gyflyrau, hyd yn oed rhai fel tinitws, anorecsia, fel y clywsom eisoes, briwiau gorwedd a dallineb hyd yn oed.
“Gall hefyd fod yn anodd iawn penderfynu a yw rhywun yn ei iawn bwyll ac yn gadarn ei ewyllys.
“Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu bod cymorth hunanladdiad wedi ei gysylltu â gwelliannau mewn gofal lliniarol a bod cefnogaeth boblogaidd iddo. Ond mae'r rhai ohonom a fynychodd y briff ardderchog ar ofal lliniarol gan y Farwnes Ilora Finlay ddoe, a lle trafodwyd y pwnc hwn, yn gwybod nad yw hynny'n wir o reidrwydd, oherwydd yn y mannau lle mae gofal lliniarol wedi gwella, nid yw wedi gwneud hynny ar y gyfradd a wnaeth yn y gwledydd lle mae cymorth hunanladdiad yn parhau i fod yn anghyfreithlon.
“Byddai cyfreithloni cymorth hunanladdiad yn anfon neges glir nad yw rhai bywydau'n werth eu byw, ac nid wyf yn credu bod honno'n neges y dylai unrhyw gymdeithas wâr ei hyrwyddo i unrhyw un o'i dinasyddion, yn enwedig pan fo llawer o bobl ledled Cymru nawr yn mwynhau bywyd boddhaus er gwaethaf eu salwch angheuol, neu er gwaethaf cyflwr gwanychol.
“Rwy'n credu mai dyna pam y mae cymaint o bobl anabl yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith yn y maes hwn. Cawsom ohebiaeth ddoe, Julie—clywais eich sylwadau yn gynharach, ond cawsom ohebiaeth ddoe gan gynghrair gyfan o sefydliadau anabledd. Nid oes yr un ohonynt yn cefnogi newid yn y gyfraith, a hynny oherwydd bod pob un ohonynt yn cydnabod y perygl i bobl gael canfyddiad o faich, eu bod yn rhywun nad yw'n haeddu bod yn fyw. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael ag ef.
Ychwanegodd:
“Felly, beth yw'r ateb? Yr ateb, yn fyr, yw buddsoddi mewn gofal lliniarol, buddsoddi mewn gofal diwedd oes. Gwyddom fod Hospice UK wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu argyfwng ariannol sylfaenol ar hyn o bryd. A chyda'n gilydd, rwy'n gobeithio mai un peth y gallwn i gyd gytuno arno, hyd yn oed os nad ydym yn cytuno ar y cynnig hwn, yw bod yn rhaid inni wneud mwy i sicrhau eu bod hwy'n cael yr arian y maent yn ei haeddu.