
Clywodd Aelodau o'r Senedd ac eraill am erchyllterau'r Holocost o lygad y ffynnon mewn digwyddiad i Goffau’r Holocost yr wythnos hon, a noddwyd ar y cyd gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar.
Yn nigwyddiad y Senedd, a gynhaliwyd ddydd Mercher, rhannodd goroeswr yr Holocost, Paul Sved BEM ei stori bwerus a theimladwy.
Cynhaliwyd y digwyddiad coffa cyn Diwrnod Cofio'r Holocost (27 Ionawr).
Cynhaliodd Darren y digwyddiad ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (DU) a llofnododd Lyfr Cofio'r Ymddiriedolaeth hefyd.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd:
“Credaf ei bod hi'n bwysig iawn bod y Senedd a chenedl Cymru yn rhoi amser i gofio a myfyrio ar erchyllterau'r Holocost a phob hil-laddiad ers hynny, ac mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein helpu i wneud hynny.”
"Mae'n ein hatgoffa mewn modd ingol ac yn adnodd addysgol i goffáu'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, a’r miliynau yn rhagor a lofruddiwyd yn sgil erledigaeth y Natsïaid ar grwpiau eraill ac yn yr hil-laddiadau mwy diweddar a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU. Eleni bydd 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.
"Nod apêl gyffredinol y diwrnod yw dysgu o'r gorffennol er mwyn herio gwahaniaethu, hiliaeth, a chasineb yn ei holl ffurfiau.
"Roeddwn i’n falch iawn o gyd-gynnal y digwyddiad hwn a chroesawu goroeswr yr Holocost, Paul Sved BEM - roedd ei dystiolaeth yn deimladwy ac yn bwerus tu hwnt.
Gorfodwyd Paul allan o'i gartref yn Hwngari gyda'i fam pan oedd ond yn chwe mlwydd oed, a goroesodd hil-laddiad y Natsïaid o drwch blewyn wrth i 'Fyddin Goch' yr Undeb Sofietaidd atal y Natsïaid – a ddaeth yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach.
"Mae wedi cysegru llawer o'i flynyddoedd diweddar i rannu ei stori gyda phobl o wahanol gefndiroedd ac rwy'n ddiolchgar iddo am roi o’i amser i fynychu ein digwyddiad.
"Rydw i hefyd am ddiolch i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am bopeth y maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod y miliynau o bobl a lofruddiwyd yn yr Holocost, yn ogystal ag mewn hil-laddiadau eraill o Bosnia a Darfur i Gambodia a Rwanda yn cael eu cofio. Mae'n ddyletswydd arnom i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu hailadrodd."
Bob blwyddyn, mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn canolbwyntio ar thema i arwain myfyrio a gweithredu. Y thema ar gyfer 2025 yw'r "Dros Ryddid Gwell".