Gyda llawer o aelwydydd a busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn dal i gael trafferth cael mynediad at fand eang da a dibynadwy, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adfer cynllun band eang a oedd yn helpu pobl i fynd ar-lein cyn iddo gael ei atal ym mis Awst.
Cafodd cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru, sy'n darparu cymorth grant i osod datrysiadau band eang amgen sy'n gallu darparu cyflymder cyflym iawn sefydlog, ei oedi o 7 Awst am gyfnod o chwe mis.
Ond yn natganiad busnes yr wythnos hon yn y Senedd, holodd Darren pam y cafodd ei oedi ac anogodd Lywodraeth Cymru i ystyried ei adfer cyn gynted â phosibl.
Meddai:
“Dros yr haf, cafodd Allwedd Band Eang Cymru, y cynllun grant i helpu pobl i fynd ar-lein a chael cyflymder band eang digonol, ei atal.
“Nawr, yn amlwg roedd honno'n ffrwd ariannu grantiau bwysig a oedd yn helpu llawer o bobl, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, i gael mynediad at fand eang digonol, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n hanfodol yn yr oes sydd ohoni—nid rhywbeth moethus ydyw.
“Wn i ddim pam yn union yr oedd yn cael ei dynnu'n ôl ar adeg pan nad oedd cynllun wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu y dylai Aelodau o'r Senedd hon gael cyfle i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog perthnasol ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl i rywbeth fod yn weithredol eto i helpu ein hetholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at gyflymder band eang priodol i fynd ar-lein.
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: