Ar ôl galw droeon dros y blynyddoedd am Arsyllfa Genedlaethol i Gymru ym Mryniau Clwyd, mae Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi codi'r mater eto yr wythnos hon gyda Llywodraeth Cymru.
Yn y Datganiad Busnes ddoe, galwodd Darren am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wyddoniaeth ar y cyfle i sefydlu Arsyllfa Genedlaethol yng Nghymru, gan dynnu sylw at ansawdd yr awyr dywyll yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Meddai:
“Mae'n fater yr wyf wedi'i godi yn y Siambr yn y gorffennol, yn enwedig gyda'ch rhagflaenydd fel Trefnydd yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog gogledd Cymru ar y pryd, ac roedd hi mor awyddus ag yr oeddwn i i archwilio'r cyfle i gael arsyllfa genedlaethol i Gymru, yn enwedig yn yr awyr dywyll o amgylch gogledd-ddwyrain Cymru yn yr hyn fydd y parc cenedlaethol newydd a fydd yn cynnwys bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy.
“Fe wnaeth fy nharo i fod erthygl yn y newyddion yn ddiweddar iawn am ansawdd yr awyr dywyll yng Nghymru. Mae ymhlith y gorau yn y byd, ond yn anffodus ychydig iawn o bobl sy'n ymwybodol ohoni. O ran chwiliadau Google, ychydig iawn o bobl sy'n chwilio am Gymru a'i chyfleoedd awyr dywyll, ac mae hynny'n gyfle i ni. Felly, a gaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf am allu Llywodraeth Cymru i edrych ar ddichonoldeb sefydlu arsyllfa genedlaethol newydd i Gymru mewn cydweithrediad â'n prifysgolion yng Nghymru a'n parc cenedlaethol?”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes), Jane Hutt AS:
“Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn y mae angen i mi ei ddilyn, yn amlwg, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, ond gyda'r ffaith eich bod chi wedi ei gysylltu hefyd, a phersbectif gogledd Cymru, â datblygiad y parc cenedlaethol, fe wnaf ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ond mae'n gyfle gwirioneddol hefyd, gan fy mod i'n gwybod bod hyn yn rhoi cyfle i bobl ymweld â Chymru oherwydd ysblander ein hawyr yn y nos.”
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: