Mae Aelod o’r Senedd Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i'r Gymdeithas Strôc a chynnal ymgyrch strôc Cam NESA yr elusen yng Nghymru.
Mae ymgyrch strôc Cam NESA yn annog y cyhoedd i ffonio 999 os byddan nhw’n sylwi bod ganddyn nhw, neu rywun arall, hyd yn oed un arwydd o strôc:
Nam ar yr wyneb – ydy’r wyneb wedi disgyn ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?
Estyn – ydyn nhw'n gallu codi'r ddwy fraich a'u cadw nhw yno?
Siarad – ydy eu lleferydd nhw’n glir?
Amser – i ffonio 999
Fe'i cyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid yng Nghymru, er gwaethaf addewidion fel aral.
Yn ystod Datganiad Busnes yn y Senedd ddoe, pwysleisiodd Darren yr angen am yr ymgyrch yng Nghymru a galwodd am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar y mater.
Meddai:
“A gaf i hefyd alw am ddatganiad arall gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran yr angen am ymgyrch cam NESA yn aml o ran symptomau strôc?
“Fe wnaeth Lywodraeth Cymru addo i'r Gymdeithas Strôc fis Hydref diwethaf y byddech chi'n cynnal ymgyrch er mwyn hybu ymwybyddiaeth o'r materion wyneb, breichiau, lleferydd ac amser sy'n gysylltiedig â strôc er mwyn inni allu atal pobl rhag dod i niwed. Maen nhw'n bwrw ymlaen â hyn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n ymddangos bod Cymru'n llusgo'i thraed, ac nid oes arwydd bod unrhyw ymgyrch benodol yn digwydd yn y dyfodol agos. Felly, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ymdrin â hyn?”
Atebodd Trefnydd (Rheolwr Busnes) Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:
“Rydyn ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr ymgyrch strôc cam NESA. Wrth gwrs, mae gennym ni ein llwybr strôc yng Nghymru, sydd wedi'i hen sefydlu a'i brofi o ran tystiolaeth, ond, yn amlwg, mae pwysigrwydd gweithredu o ran ymateb i strôc yn allweddol. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd ymateb iddo, ac, yn wir, yr ydym ni yn ei gefnogi.”
Ychwanegodd Darren:
"Mae hon yn ymgyrch bwysig sydd wedi cael effaith sylweddol ar gleifion sy'n cael triniaeth strôc mewn rhannau eraill o'r DU a dydw i ddim yn deall pam mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyhyd i fynd i'r afael â hi yma yng Nghymru."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: