
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi addo parhau i frwydro i amddiffyn plant rhag ymddygiad rheibus wedi i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol gael ei gwrthod.
Ledled Cymru, mae tystiolaeth glir bod camfanteisio'n rhywiol ar blant trwy gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol wedi digwydd, ond nid yw'r awdurdodau'n gwybod maint llawn y broblem.
Wrth siarad yn y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Darren mai'r unig ffordd i gyrraedd gwraidd y broblem yw cynnal ymchwiliad ledled Cymru.
Dywedodd:
"Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn un o’r troseddau mwyaf erchyll y gellir eu dychmygu. Nid yn unig ei fod yn amddifadu plant o'u diniweidrwydd, mae'n achosi oes o drawma i ddioddefwyr, yn enwedig pan fydd troseddwyr yn mynd heb eu cosbi. Am y rheswm hwnnw, mae dyletswydd foesol ar bob un ohonom i sicrhau bod y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn yn mynd o flaen eu gwell, a bod goroeswyr y troseddau hynny'n cael eu clywed.
"Dair wythnos yn ôl, cysylltodd Emily Vaughn, yr unigolyn dewr a oroesodd gamfanteisio rhywiol gan gang meithrin perthynas amhriodol, i sôn am yr erchyllterau a ddioddefodd. Ac fe wnaeth ei phrofiadau fy argyhoeddi—fy argyhoeddi'n llwyr—fod hon yn broblem yng Nghymru nad yw'n mynd i ddiflannu gyda'r gyfres bresennol o gamau gweithredu sydd wedi'u cymryd, a chyda'r camau gweithredu arfaethedig sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Dyna pam y credaf mai’r ffordd orau ymlaen, er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn unwaith ac am byth, yw sicrhau ein bod yn cael ymchwiliad annibynnol Cymru gyfan i’r mater hwn."
Pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wthio Llywodraeth Cymru ar y mater hwn i sicrhau y gall ein plant gael eu hamddiffyn rhag ymddygiad rheibus ac i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr camdriniaeth."