Mae Aelod o’r Senedd Gorllewin Clwyd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid wedi galw o’r newydd am gymorth mentora cymheiriaid i gyn-filwyr fod ar gael ledled Cymru gyfan.
Mae Darren yn poeni fod cael gafael ar gymorth o'r fath yn loteri cod post ar hyn o bryd, ac yn y Senedd yn gynharach eleni dywedodd y bydd sicrhau bod mentoriaid cymheiriaid yn hygyrch i gyn-filwyr ledled Cymru yn arbed arian yn yr hirdymor.
Mewn cyfarfod o’r Senedd yr wythnos hon, cododd yr angen am fwy o fentoriaid cymheiriaid eto.
Wrth holi'r Prif Weinidog, dywedodd:
“GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth yr ydym ni'n falch iawn o'i gael yma yng Nghymru? Ond, fel grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, rydym ni wedi bod yn edrych ar y gwasanaeth a pha un a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i'w wella.
“Un o'r gwelliannau a awgrymwyd i ni yw'r angen i ymwreiddio mentoriaid cymheiriaid o fewn y gwasanaethau hynny ar draws Cymru gyfan. Ar hyn o bryd, ceir dull anghyson o ddefnyddio mentoriaid cymheiriaid yn uniongyrchol gan y GIG, ac mae hynny, rwy'n credu, yn golygu bod rhai pobl yn cael gwasanaeth gwell nag eraill mewn rhai rhannau o'r wlad, yn amlwg nad oes yr un ohonom ni eisiau ei weld.
“O siarad â Dr Neil Kitchener, sydd wrth gwrs yn gyfrifol am arwain y gwasanaeth hwnnw, mae'n credu y byddai £0.5 miliwn yn unig yn ddigonol i wneud yn siŵr y gallai'r gwasanaeth safon aur hwnnw, gyda mentoriaid cymheiriaid, fod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Ac o gofio'r ffaith ei bod hi'n 80 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd y flwyddyn nesaf, rwy'n teimlo y byddai'n amser priodol i wneud y buddsoddiad hwnnw yn y gwasanaeth hwn. A yw hynny'n rhywbeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru yn ei ystyried?”
Meddai Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS,
“Rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni, mewn gwirionedd, yn rhoi cymorth sylweddol i gyn-filwyr yng Nghymru, a chymorth iechyd meddwl yn arbennig—£920,000, nad yw'n swm dibwys o arian. Nid wyf i'n ymwybodol o'r mentora cymheiriaid, felly byddaf yn mynd i ffwrdd ac yn edrych ar hynny a gweld sut y byddai hynny'n gweithio a pha mor effeithiol ydyw.”
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood:
"Byddai buddsoddi mewn mentoriaid cymheiriaid yn werth chweil gan ein bod yn gwybod bod cyn-filwyr sy'n dioddef o bethau fel Anhwylder Straen Wedi Trawma yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus a gallant fod yn defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus mynych mewn ffyrdd eraill. Bydd yn arbed arian yn yr hirdymor."
Beth am wylio cyfraniad Darren Millar yn Senedd Cymru, isod: