Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhieni sy'n gweithio drwy ddarparu'r un cynnig gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
Wrth alw am ddatganiad am y cynnig gofal plant gan Lywodraeth Cymru yn y Datganiad Busnes ddoe, dywedodd Darren fod rhieni yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi cysylltu ag ef yn anhapus gyda’r diffyg cymorth i rieni sy'n gweithio yng Nghymru.
Tynnodd Darren sylw at y cymorth sy'n cael ei ddarparu i rieni yn Lloegr, a gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid i ddarparu cynnig gofal plant am ddim cymaradwy yng Nghymru, gofynnodd pam nad yw hyn yn cael ei wneud.
Meddai:
"Mae nifer o etholwyr gofidus yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi yn siomedig am y diffyg cymorth gyda chostau gofal plant y maen nhw’n gymwys i'w chael o'i gymharu â'u ffrindiau a'u teulu dros y ffin yn Lloegr.
"Ond mae'n ymddangos eich bod yn gallu darparu gofal plant am ddim mewn ardaloedd Dechrau'n Deg i bobl sy'n gallu fforddio talu am eu gofal plant, sy'n ymddangos yn gwbl chwerthinllyd.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cael yr arian i allu darparu cynnig gofal plant am ddim cymaradwy i rieni sy'n gweithio yng Nghymru. Pam nad ydych chi'n rhoi'r un chwarae teg i rieni yma a sicrhau bod mwy o gymorth ar gael?"
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS,
"Rydyn ni’n falch iawn o'n cynnig gofal plant yma yng Nghymru, y cynnig gofal plant gorau yn y DU."
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Byddai'r rhieni rydw i wedi siarad gyda nhw yn sicr yn anghytuno â'r Gweinidog.
"Mae gorfod talu costau gofal plant sylweddol yn rhoi straen enfawr ar gyllidebau eu cartrefi. Mae'n chwerthinllyd ac yn annheg eu bod yn colli allan ar y cymorth hwn pan mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cyllid ar gael i gyflwyno cymorth ychwanegol gyda chostau gofal plant yma yng Nghymru."