Mae Darren Millar, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Gogledd ac AS Gorllewin Clwyd, wedi dweud nad yw GIG Cymru “yn ddigon da” a galwodd ar Lywodraeth Lafur Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes ddoe yn y Senedd, cyfeiriodd Darren at yr ymchwiliad annibynnol diweddar i'r GIG yn Lloegr, a dywedodd o ystyried bod saith bwrdd iechyd yng Nghymru mewn gwahanol raddau o ymyrraeth neu fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, mae angen dirfawr am ymchwiliad annibynnol i GIG Cymru.
Gan alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar ddyfodol y GIG yma yng Nghymru, dywedodd:
“Rydym yn gwybod bod y GIG yn wynebu heriau sylweddol yn y Gogledd, ond hefyd maen nhw'n mynd y tu hwnt i hynny, i'r wlad gyfan. Comisiynodd Llywodraeth y DU ymchwiliad annibynnol i'r GIG yn Lloegr gan yr Arglwydd Darzi, ac, ar ôl darllen yr adroddiad hwnnw, mae'n gwbl amlwg, ar bron pob un eitem a restrir ynddo, fod y GIG yng Nghymru yn perfformio'n waeth na'r sefyllfa a nodwyd yn Lloegr.
“Nawr, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru’n mynd i gomisiynu adolygiad annibynnol o'n gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, er mwyn i ni allu datgelu'r problemau a'r anawsterau a'r heriau sydd yno, ac o’r diwedd, fynd i'r afael â nhw unwaith ac am byth.
“Mae gennym saith bwrdd iechyd mewn gwahanol raddau o ymyrraeth neu fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru. Dydy hynny ddim yn ddigon da. Fyddai hynny ddim yn wir pe byddem yn gallu cael adroddiad annibynnol a fyddai'n rhoi arweiniad i ni o ran sut i ddod allan o'r llanast hwn rydych chi wedi'i greu ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, ac rydyn ni eisiau gwybod, gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros iechyd, a fydd yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r fath.
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes Llywodraeth Cymru): “Rydym yn cytuno'n llwyr â'r adolygiad annibynnol diweddar, a gynhaliwyd gan Arglwydd a oedd â sail dystiolaeth sicr, ac, yn wir, Arglwydd Llafur, a welodd drosto'i hun, nid yn unig fel meddyg ei hun, ond hefyd fel Gweinidog Iechyd. Nododd yr holl ragofynion ar gyfer dyfodol cenedl iachach a'r GIG i Gymru ac, yn wir, gweddill y DU. Felly, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi'r adroddiad hwnnw'n fawr”.
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Darren:
“Ers gormod o amser mae cleifion ar draws Cymru wedi cael eu siomi. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â chyflwr enbyd ein gwasanaeth iechyd unwaith ac am byth, a chynnal adolygiad annibynnol fyddai'r dechrau gorau i gyflawni hynny.”