Wrth sôn am dynnu Bil cwota rhywedd Llywodraeth Lafur Cymru yn ôl yn swyddogol ar gyfer etholiadau, dywedodd Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad y Ceidwadwyr Cymreig:
“Roedd yn amlwg bod y cwotâu rhywedd etholiad cynhennus hyn y tu allan i gymhwysedd y Senedd ac felly roedd dilyn y trywydd hwnnw’n wastraff erchyll o arian trethdalwyr.
“Mae'r Ceidwadwyr wedi ffafrio dewis ymgeiswyr ar sail teilyngdod a chan y pleidleiswyr erioed, nid ar sail eu rhywedd nac unrhyw agwedd arall ar amrywiaeth.
“Mae'n bryd i Lafur roi'r gorau i'w hobsesiwn â diwygio etholiadol y Senedd a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru drwy fynd i'r afael â pherfformiad gwael ein GIG, safonau sy’n gostwng yn ein hysgolion a'n heconomi ddiffygiol.”