Noddodd Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd y Senedd, ddigwyddiad arbennig yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf i nodi 150 mlynedd ers i Fyddin yr Iachawdwriaeth gyfarfod am y tro cyntaf yng Nghymru.
Roedd gwleidyddion, arweinwyr crefyddol, aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth a phobl sydd wedi cael budd o'i gwaith ymhlith y rhai a ddaeth ynghyd ar gyfer y derbyniad yn y Senedd nos Fawrth, gan helpu i gloi blwyddyn o ddigwyddiadau, gweddïau a dathlu arbennig.
Cyfarfu Byddin yr Iachawdwriaeth am y tro cyntaf yng Nghymru yn y Gospel Hall, Stryd Bute, Caerdydd ar 15 Tachwedd 1874 ac maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith gwych ledled Cymru ers hynny.
Dechreuodd Byddin yr Iachawdwriaeth ei gwaith yng Nghymru ym 1874 pan ddechreuodd John Allen, ar gais William Booth, weithio yng Nghaerdydd, gyda chefnogaeth ariannol gan y teulu Cory, teulu o ddiwydianwyr.
Dilynodd eraill Allen i Gymru, gan gynnwys Kate Watts, y gweinidog benywaidd ifanc, a fu'n gweinidogaethu i dlodion ac i’r rhai ar gyrion cymdeithas ym Merthyr Tudful.
A thros y blynyddoedd, mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi gweld llwyddiannau aruthrol, efallai yn fwyaf nodedig ei chefnogaeth i godi oedran cydsynio o 13 i 16 ym 1885, yn ogystal â gwaith hanfodol i gefnogi pobl ddigartref a brwydro yn erbyn tlodi.
Diolchodd Darren i Fyddin yr Iachawdwriaeth am ei gefnogi i sefydlu gwasanaeth caplaniaeth y Senedd sawl blwyddyn yn ôl, a dywedodd fod llawer o aelodau'n gwerthfawrogi'r gwasanaeth yn fawr.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:
“Brain oedd mwyaf oedd cael cynnal y derbyniad hwn i nodi 150 mlwyddiant Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n ffodus iawn o'u cael yn gweithio'n galed i ni ar hyd a lled Cymru. Ymlaen i’r 150 mlynedd nesaf!”
Meddai Is-gyrnol Jonathan Roberts, arweinydd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru:
“Rydyn ni'n eithriadol o ddiolchgar i Darren Millar am noddi'r digwyddiad hwn yn y Senedd ar ran Byddin yr Iachawdwriaeth, sydd dafliad carreg o safle ein cyfarfod cyntaf. Mae'n gyfle gwych i arddangos ein gwaith ledled Cymru gan dynnu sylw at gyfraniad ein heglwysi cymunedol a'n gwasanaethau cymdeithasol.
“Mae'r materion sy'n wynebu pobl yng Nghymru yn golygu bod y gefnogaeth rydyn ni'n ei darparu yr un mor berthnasol heddiw ag y bu erioed, drwy ein gwaith cenhadaeth, ein gwasanaethau cymdeithasol a'n partneriaethau eciwmenaidd.
“Bydd y derbyniad hwn yn un o'r uchafbwyntiau mewn blwyddyn o ddiolchgarwch a myfyrdod, gan nodi nid yn unig cyflawniadau'r gorffennol, ond hefyd ein heffaith barhaus yng Nghymru.
“Mae ein presenoldeb ar draws cymunedau yng Nghymru wedi esblygu ers 1874. Fodd bynnag, rydyn ni'n parhau i fynd i'r afael â llawer o'r un materion heddiw, fel digartrefedd, caethiwed, dyled a chamfanteisio ar bobl agored i niwed.”