Mae Ysgrifennydd Cabinet dros y Gogledd yr Wrthblaid ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am ganiatáu i Gyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) aros yn ei swydd am bron i ddwy flynedd ar ôl i gyfrifon ffug gael eu datgelu.
Mae Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru, wedi ymddiswyddo dwy flynedd ar ôl adroddiad damniol.
Ysgrifennodd y cwmni cyfrifyddu EY (Ernst & Young) adroddiad manwl ynghylch trafodion ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng nghyfrifon 2021-2022. Roedd hyn yn cynnwys cofnodion bwriadol anghywir i'w cyfrifon eu hunain yn ogystal â dod o hyd i "fethiannau diwylliannol systematig" yn nhîm cyllid y sefydliad. Roedd hyn yn dilyn yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi "gwallau sylweddol" o fewn cyfrifon 2021-22.
Ddoe yn y Senedd, dywedodd Darren ei bod hi'n "frawychus bod pobl yn cael gadael pan ddylen nhw gael eu diswyddo" a galwodd am Ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar y mater.
Meddai:
“A gaf i alw am nifer o ddatganiadau heddiw? Y cyntaf yw datganiad y mae ei angen gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ymadawiad cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i wedi gwylltio'n llwyr, a dweud y gwir, bod y cyfarwyddwr cyllid yn mynd i adael ar delerau ffafriol tua diwedd y flwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod pethau ysgytwol wedi'u nodi yn adroddiad Ernst & Young a wnaeth ddarganfod bod cyfrifyddu anwir, afreoleidd-dra a gwallau bwriadol yn cael eu gwneud gan unigolion yn y tîm cyllid. A dweud y gwir, mae'n frawychus bod pobl yn cael gadael pan ddylen nhw fod wedi cael eu diswyddo.
“Mae hi nawr dros ddwy flynedd ers i'r adroddiad hwn fod ar gael i'r bwrdd. Mae'n fwrdd sydd mewn mesurau arbennig o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, ac a dweud y gwir, mae'r ffaith eich bod chi'n caniatáu hyn yn gwbl annerbyniol.
“Felly, a gawn ni ddatganiad yr wythnos hon gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drefniadau'r mesurau arbennig fel y gallwn ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei methiant i weithredu ar y mater hwn?”
Wrth ymateb, dywedodd Trefnydd (Rheolwr Busnes) Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS:
“Mater cyflogaeth yw ymddiswyddiad y cyfarwyddwr cyllid gweithredol ac felly mae'n fater i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ymateb iddo.”
Wrth wneud sylw am hyn ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
"Unwaith eto mae Llywodraeth Cymru yn golchi ei dwylo o unrhyw gyfrifoldeb. Fel y nodais yn y Siambr, bwrdd iechyd yw hwn sydd dan fesurau arbennig ac felly o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Lafur Cymru. Mae pobl Gogledd Cymru yn haeddu datganiad ac yn hollol onest mae'n warthus nad ydyn nhw’n cael un."