Yn ystod Wythnos Gofal Hosbis 2024, ymunodd AS Gorllewin Clwyd Darren Millar â Hosbisau Cymru, Hospice UK a Marie Curie ar gyfer digwyddiad briffio am ddyfodol gofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru.
Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Senedd ddoe, cyfarfu Darren ag aelodau'r elusennau i glywed am y cyfraniad gwerthfawr y mae'r trydydd sector yn ei wneud i ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Trafodwyd y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu darparwyr gofal diwedd oes elusennol ar adeg o angen cynyddol, yn ogystal â'r rôl bwysig y mae darparwyr trydydd sector yn ei chyflawni wrth ddarparu gofal a chymorth arbenigol yn y gymuned.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:
"Rydw i wedi hyrwyddo'r gwaith anhygoel y mae ein hosbisau yn ei wneud ers tro ac wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i'w cefnogi.
"Rydyn ni’n hynod ffodus i gael tair hosbis ardderchog yn y Gogledd ond yn anffodus maen nhw wedi cael eu tangyllido'n barhaus ers blynyddoedd - mae angen i hyn newid.
"Roeddwn yn falch o fynychu'r sesiwn friffio hon i drafod y materion sy'n wynebu ein hosbisau ac roedd yn arbennig o dda cwrdd ag aelodau'r elusennau i ddarganfod mwy am sut mae'r trydydd sector yn chwarae rhan mor hanfodol wrth ddarparu gofal diwedd oes a gofal lliniarol.
"Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod ein hosbisau'n derbyn yr arian statudol sydd ei angen arnyn nhw, fel nad oes rhaid iddyn nhw ddibynnu bellach ar haelioni'r gymuned leol."