Ar ôl galw dro ar ôl tro dros y blynyddoedd am waith diogelwch ar ddwy groesfan reilffordd beryglus yn ei etholaeth, mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi croesawu e-bost gan Network Rail yr wythnos hon yn amlinellu cynlluniau i adeiladu pont a fydd yn caniatáu llwybr mwy diogel a hygyrch i bobl groesi'r rheilffordd.
Mae'r bont newydd yn rhan o gynlluniau Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gynyddu nifer y gwasanaethau trên i deithwyr ar brif lein y Gogledd mewn partneriaeth â Network Rail.
Mae TrC yn bwriadu cynyddu nifer y gwasanaethau trên sy'n gweithredu ar hyd prif lein y Gogledd o tua 2 drên yr awr i 3 thrên yr awr o'r dyddiad cynharaf posibl ar ôl Rhagfyr 2025. Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn cynyddu cysylltedd i gymunedau ledled y Gogledd a Lerpwl.
Mae'r e-bost a anfonwyd at Darren yn nodi:
"Er bod cyflwyno un trên ychwanegol yr awr yn cynnig manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i Gonwy, bydd y cynnydd mewn traffig rheilffordd hefyd yn golygu mwy o risg i gerddwyr sy’n defnyddio croesfannau ar lefel y llwybr troed yn Nhŷ Gwyn a Phen Uchaf, Abergele. Mae Tŷ Gwyn (21ain) a Phen Uchaf (37ain) yn uchel ar y rhestr o groesfannau risg uchaf ar Lwybr Cymru a'r Gororau (mae yna 1041 o groesfannau i gyd).
"Mae defnyddwyr rheolaidd yn cynnwys defnyddwyr bregus fel teuluoedd, plant a cherddwyr cŵn. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Network Rail wedi cofnodi: • 24 achos o gamddefnyddio ers mis Ionawr 2019. • 11 o ddamweiniau a fu bron â digwydd ers mis Ionawr 2019 • 2 farwolaeth yn Nhŷ Gwyn yn 2019. Mae gan Network Rail gyfrifoldeb i ddarparu rheilffordd ddiogel a dibynadwy a rhwymedigaeth gyfreithiol i reoli risg croesfannau rheilffordd i lefel sydd mor isel ag sy'n rhesymol ymarferol.
"Felly, mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, mae Network Rail ar hyn o bryd yn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer pont i ganiatáu llwybr mwy diogel a hygyrch i bobl groesi'r rheilffordd. Byddai hyn yn golygu bod modd cau'r croesfannau rheilffordd risg uchel hyn yn barhaol tra'n cynnal llwybr diogel i'r gymuned leol ei ddefnyddio, yn ogystal â gwella amserlen TrC ac amlder y trenau."
Wrth sôn am y cynigion, dywedodd Darren:
"Mae'r croesfannau rheilffordd yn cael eu defnyddio'n aml gan bobl leol a phobl ar eu gwyliau ond maen nhw'n berygl go iawn ac yn 2019 bu dwy farwolaeth drasig ar groesfan Tŷ Gwyn.
"Rydw i wedi bod yn galw ers tro am weithredu i wneud croesi'r rheilffordd yn fwy diogel, felly roeddwn wrth fy modd yn derbyn y newyddion diweddaraf hwn gan Network Rail. Bydd pont ar y safle yn lleihau’r peryglon ac yn gwneud mynediad i'r traeth yn fwy diogel i bawb.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo ac yn y cyfamser rwy'n annog pobl sy'n defnyddio'r croesfannau rheilffordd i gadw at y canllawiau canlynol;
- darllenwch yr arwyddion rhybudd a dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus
- os ydych chi ar feic, dewch oddi arno a cherdded
- goruchwyliwch blant ac anifeiliaid
- stopiwch, edrychwch y ddwy ffordd a gwrandewch
- pan fydd y llinell yn glir, croeswch yn gyflym heb redeg (gan ddal ati i edrych a gwrando)
- os oes giât, caewch hi ar eich hôl bob amser."
Mae Darren hefyd wrth ei fodd y bydd Gogledd Cymru yn elwa ar wasanaethau trên ychwanegol.
Meddai:
"Mae'n hen bryd i ddefnyddwyr rheilffyrdd yn y Gogledd gael gwasanaeth mwy rheolaidd.
"Bydd y gwasanaethau ychwanegol ar brif lein y Gogledd yn helpu i gynyddu amlder y trenau 40% a chapasiti o 50%."
"Y cyfan sydd ei angen arnom ni nawr yw i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn prisiau tocynnau rheilffordd rhwng y Gogledd a’r De - rhywbeth rydw i wedi bod yn galw amdano dro ar ôl tro.
"Dylai datrys y gwahaniaethau hyn fod yn hawdd, o gofio mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Trafnidiaeth Cymru a Masnachfraint Cymru a'r Gororau."