Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ailystyried ei benderfyniad i gau hanner ei doiledau cyhoeddus.
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd 20 o gyfleusterau ar draws y fwrdeistref sirol yn cau, mewn ymgais gan yr awdurdod lleol i dorri gwariant.
Fel rhan o’r cynlluniau, dim ond dau gyfleuster fydd yn parhau ym Mae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos, a bydd y ddau yn codi ffi am eu defnyddio.
Mae llawer o gyfleusterau eraill sydd ar hyn o bryd am ddim hefyd ar fin cyflwyno taliadau i'w defnyddio.
Dim ond 21 o gyfleusterau cyhoeddus a fydd yn aros ar agor ar draws yr ardal gyda rhai ar agor yn dymhorol yn unig rhwng y Pasg a mis Medi, tra bydd 19 o gyfleusterau yn adeiladau'r Cyngor ei hun hefyd ar agor i'r cyhoedd.
Wrth sôn am y cynlluniau, dywedodd Darren:
"Rwy'n siomedig iawn gyda'r penderfyniad byrbwyll hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld dirywiad sylweddol yn argaeledd cyfleusterau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'r penderfyniad hwn yn ergyd enfawr i gymunedau ledled yr ardal.
"Er fy mod yn gwerthfawrogi bod awdurdodau lleol dan bwysau ariannol sylweddol ar hyn o bryd, nid wyf yn credu mai torri cyfleusterau cyhoeddus hanfodol yw'r ateb i hyn.
"Bydd effaith fwyaf y penderfyniad hwn yn cael ei deimlo gan bobl oedrannus ac anabl, yn ogystal â rhieni a’u plant, heb sôn am y twristiaid a fydd yn troi eu cefnau ar ymweld â'r ardal.
"Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol i fynegi fy mhryderon dwys, ac yn annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ailystyried eu safbwynt."