Bydd penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i ddileu taliadau tanwydd gaeaf i bawb nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau yn gadael 30,000 o bensiynwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar eu colled y gaeaf hwn.
Ddoe, cyhoeddodd y Canghellor y bydd y taliadau a ariennir gan drethdalwyr ddim ond yn cael eu dyfarnu i'r rhai sy'n gymwys am Gredyd Pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill.
Mae’r AS dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu’r penderfyniad, a fydd yn golygu na fydd 13,000 o bensiynwyr yn Sir Ddinbych a 17,000 yng Nghonwy bellach yn gymwys i dderbyn y taliad.
Meddai:
"Bydd y cyhoeddiad ddoe wedi dod fel ergyd enfawr i filoedd o bensiynwyr yng Ngorllewin Clwyd, a miliynau ledled y wlad.
"Er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhai pensiynwyr cefnog nad ydyn nhw efallai yn dibynnu ar y taliad blynyddol hwn i'w helpu gyda'u costau tanwydd, mae llawer iawn sy'n dibynnu arno ac sydd nawr yn cael eu cosbi.
"Mae'r pensiynwyr yma yn flin, ac mae hynny’n ddealladwy. Mae'r mwyafrif wedi gweithio'n galed gydol eu bywydau ac ni ddylent fod mewn sefyllfa lle maen nhw’n ofni rhoi'r gwres ymlaen pan fyddan nhw’n oer.
"Mae'n achos pryder mawr ac mae pobl bellach yn byw mewn ofn ynghylch pa aberth arall y gallen nhw gael eu gorfodi i'w wneud o dan lywodraeth Lafur.
"Mae pensiynwyr a phobl ar incwm sefydlog yn enwedig yn ei chael hi'n anoddach fyth i dalu costau byw cynyddol ddrud, ond mae'r Canghellor wedi methu â chymryd hyn i ystyriaeth. A dweud y gwir mae'n warth llwyr ac mae’n pensiynwyr yn haeddu gwell."