Galwodd Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, o’r newydd ddoe am Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych fel y cafodd ei addo.
Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru addo adeiladu'r cyfleuster newydd ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl 11 mlynedd yn ôl er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd. Fodd bynnag, mae'r trigolion yn dal i ddisgwyl.
Yng nghyfarfod y Senedd ddoe, fe wnaeth Darren, sydd wedi bod yn galw dro ar ôl tro am gynnydd ar y prosiect, godi’r mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AS, yn ystod cwestiwn ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Meddai:
“Un o’r blaenoriaethau y mae pobl yn fy etholaeth i, ac yn wir, cymunedau ehangach Conwy a sir Ddinbych, am ei weld ar eich rhestr yw darparu ysbyty cymunedol newydd ar gyfer pobl gogledd sir Ddinbych.
“Mae wedi cael ei addo ers tro, ond hyd yma, yn anffodus, ni fu digon o gynnydd ar gyflawni’r addewid hwnnw. Mae 11 mlynedd ers eich cyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn agor gyda gwelyau ychwanegol i fynd â pheth o'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd i lawr y ffordd. Pryd y gall pobl ddisgwyl gweld cyhoeddiad ar y cyllid sydd ar gael i gyflawni’r prosiect hwnnw, fel y gallwn fynd ati i ymdrin unwaith ac am byth â rhywfaint o’r pwysau acíwt ar safle ein hysbyty acíwt?”
Yn ei ymateb, beiodd y Prif Weinidog Cymru yr oedi ar gostau cynyddol, a dywedodd fod y costau wedi cynyddu i dros £100 miliwn.
Fodd bynnag, dywedodd fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i adolygu cwmpas y datblygiad a'i fod yn disgwyl y bydd yr achos busnes hwnnw'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried yn y flwyddyn ariannol hon.
Ychwanegodd:
“A'r ail ddarn o newyddion da yw, gyda £235 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gael i ni yng Nghymru y flwyddyn nesaf, bydd anghenion y gwasanaeth iechyd yn bendant iawn yn fy meddwl wrth imi gael trafodaethau ar draws Llywodraeth Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweld, o gymharu â’r hyn rydym wedi’i gael, cynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru, fel y gellir bwrw ymlaen â chynlluniau fel yr un yn Ysbyty Brenhinol Alexandra.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Darren:
"Er i mi gael fy nghalonogi gan y diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, rwy'n dal o’r farn pe na bai Llywodraeth Cymru wedi llusgo’i thraed, y byddai'r ysbyty newydd hwn wedi bod ar waith flynyddoedd yn ôl, gan wneud profiad y claf yn un llawer gwell i drigolion Gogledd Sir Ddinbych.
"Yn lle hynny dros yr 11 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi gweld pwysau cynyddol ar staff Ysbyty Glan Clwyd ac amseroedd aros hirach i gleifion, tra’n gweld buddsoddiad mewn ysbyty newydd sbon yn y De.
"Rwy'n gobeithio'n fawr, pan fydd Mr Drakeford yn dyrannu arian i GIG Cymru, ei fod yn sicrhau bod Ysbyty newydd Gogledd Sir Ddinbych yn un o'i brif flaenoriaethau ac nad yw'r prosiect yn cael ei leihau i'r graddau nad yw'n gwneud fawr o wahaniaeth, os o gwbl."