
Croesawyd is-bostfeistri o bob rhan o Gymru i'r Senedd yr wythnos hon i fynychu digwyddiad a gynhaliwyd gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar.
Yn nigwyddiad galw heibio Ffederasiwn Genedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) cafwyd cyfle i Aelodau o'r Senedd drafod gyda’r rhai a oedd yn bresennol y problemau sy’n wynebu Is-bostfeistri a Swyddfeydd Post yng Nghymru.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys Calum Greenhow, Prif Swyddog Gweithredol yr NFSP, a roddodd rywfaint o dystiolaeth i ymchwiliad Swyddfa'r Post, Gwyneth Millington, Is-bostfeistr yn Abergele, a Huw Hilditch Roberts, Is-Bostfeistr yn Rhuthun.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Darren:
"Roeddwn i’n falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn, a roddodd gyfle i is-bostfeistri drafod eu pryderon ynghylch y sector.
"Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r anghyfiawnder ofnadwy y mae cynifer o Is-bostfeistri wedi’i ddioddef o ganlyniad i sgandal Swyddfa’r Post, a elwir hefyd yn sgandal TG Horizon, a oedd yn cynnwys Swyddfa'r Post yn ymlid miloedd o is-bostfeistri diniwed am ddiffygion ariannol ymddangosiadol, a oedd wedi eu hachosi gan ddiffygion yn Horizon, system feddalwedd cyfrifyddu a ddatblygwyd gan Fujitsu. Ym mis Rhagfyr, daeth Ymchwiliad Horizon i ben, a dechreuodd y Cadeirydd lunio’i argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth a roddwyd yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus dros gyfnod o ddwy flynedd.
"Yn y digwyddiad, trafododd Is-bostfeistri yr angen i atal sefyllfa debyg rhag codi eto, gan bwysleisio sut mae angen model llywodraethu newydd."
Ychwanegodd:
"Yn aml, swyddfeydd post yng Nghymru yw'r 'siop olaf yn y pentref', ac felly mae'n dibynnu ar gymhorthdal gan y llywodraeth i aros ar agor. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cymhorthdal hwn, mae llawer o is-bostfeistri mewn swyddfeydd post gwledig yn gweithredu ar golled neu ar lai na'r isafswm cyflog cyfatebol.
"Pwysleisiwyd yn y digwyddiad nad yw llawer o bobl yn gwybod bod y Swyddfeydd Post hefyd yn cynnig gwasanaethau bancio a mynediad hanfodol at arian parod, a gyda chymaint o fanciau wedi cau ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw’n awyddus i fwy o bobl ddechrau defnyddio'r gwasanaethau a ddarperir yn y Swyddfeydd Post.
"Yn 2024, roedd 920 o swyddfeydd post (gan gynnwys rhai allgymorth) yng Nghymru, sydd i lawr o 32 cangen ers mis Medi 2023. Mae'n destun pryder mawr fod cymaint o swyddfeydd post wedi cau pan ystyriwch yr achubiaeth gymdeithasol maen nhw’n ei chynnig i rai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
"Does dim amheuaeth fod y Swyddfeydd Post yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi a'u diogelu."