Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd wedi mynegi siom fawr bydd Cyngor Sir Ddinbych yn lleihau amseroedd agor llyfrgelloedd o’r mis nesaf ymlaen, er gwaetha'r gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd a gwleidyddion.
O 1 Mehefin, bydd oriau agor Llyfrgelloedd a Siopau Un Stop Sir Ddinbych yn newid, a bydd holl lyfrgelloedd y sir ar agor am lai o oriau.
Pan gafodd y cynlluniau eu crybwyll gyntaf, mynegodd Darren ei wrthwynebiad a galw ar y Cyngor i archwilio mesurau amgen.
Anfonodd lythyr pellach at Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan, hefyd yn ei annog ef a'i gydweithwyr i wrando ar y farn y cyhoedd a chadw'r oriau agor presennol.
Felly, mae'n siomedig nad yw hyn wedi digwydd.
Meddai:
“Mae'n siomedig tu hwnt ac yn destun pryder, er gwaethaf y gwrthwynebiad sylweddol i'r cynigion i leihau amseroedd agor llyfrgelloedd ledled y sir, fod Cabinet Sir Ddinbych wedi penderfynu bwrw ymlaen â nhw beth bynnag.
“Mae'r diffyg ystyriaeth lwyr i'r hyn mae pobl Sir Ddinbych ei eisiau yn dychryn rhywun a dweud y gwir.
“Beth yw diben cynnal ymgynghoriadau costus os nad ydych chi'n barod i wrando a gweithredu ar yr adborth rydych chi’n ei gael?
“Rydyn ni'n gweld mwy a mwy o hyn yn digwydd yn Sir Ddinbych gyda'r Cabinet yn meddwl mai nhw sy'n gwybod orau.
“Er 'mod i'n deall y pwysau ariannol sy'n wynebu’r awdurdod lleol, dwi ddim yn credu bod lleihau oriau agor llyfrgelloedd yn benderfyniad doeth, a dwi'n sicr nad anwybyddu barn y trigolion yw'r ffordd i fynd ati!
“Dwi wedi bod yn curo ar ddrysau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl yn ddig. Maen nhw'n talu mwy o dreth gyngor bob mis tra mae gwasanaethau'n cael eu cwtogi'n barhaus.
“Rydyn ni'n gwybod bod fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru’n hynod annheg ac annigonol, yn enwedig i gynghorau'r Gogledd ac awdurdodau mewn rhannau gwledig o Gymru hefyd.
“Mae'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu ar ein galwadau am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu i sicrhau bod pob rhan o Gymru’n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad, gan alluogi ein hawdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau hanfodol, fel llyfrgelloedd.”