Gyda Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynllun ailgylchu symlach yr wythnos ddiwethaf, mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un fath.
Wrth godi'r mater yn y Datganiad Busnes heddiw, cyfeiriodd Darren at Gyngor Sir Ddinbych sy’n dal i fod â system gymysg ar hyn o bryd, gan dynnu sylw at y ffaith bod ei gyfraddau ailgylchu yn uwch nag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru lle mae gwastraff yn cael ei wahanu wrth ymyl y ffordd.
Bydd y cyngor yn symud i system ymyl y ffordd ar 1 Mehefin, cam y mae Darren wedi'i wrthwynebu'n gryf.
Ddydd Iau, cyhoeddodd Adran yr Amgylchedd (Defra) reolau newydd ar gyfer cartrefi a gweithleoedd yn Lloegr, a fydd yn galluogi pobl i roi plastig, metel, gwydr, papur a cherdyn mewn un bin.
Dywedodd Defra y bydd y mesurau newydd yn golygu na fydd yn rhaid i gartrefi wirio pa ddeunyddiau y bydd eu cyngor penodol yn eu derbyn ar gyfer ailgylchu, a byddant yn lleihau cymhlethdod i gasglwyr gwastraff ac yn hybu cyfraddau ailgylchu hefyd.
Wrth alw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl a mabwysiadu'r system symlach hon, dywedodd Darren:
“A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag ailgylchu?
“Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynllun ailgylchu symlach yr wythnos ddiwethaf, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol ac eraill i ymdrin ag ailgylchu mewn ffordd wahanol, sy'n golygu y gellir cymysgu'r holl ddeunydd ailgylchu sych.
“Nawr, mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o hyd yn Sir Ddinbych lle gall yr holl ddeunydd ailgylchu sych fynd i mewn i un bin. Mae'n syml iawn, mae'n hawdd i'r cyhoedd ei ddeall, ac mae'n atal yr holl finiau anniben a welwn y tu allan i gartrefi llawer o bobl, ar lawer o strydoedd, ac yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gennych chi gyfran fawr o’r boblogaeth mewn fflatiau. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU yn ymestyn y cyfle i fusnesau wneud yr un fath.
“Roedd gan Sir Ddinbych gyfraddau ailgylchu - g =ân ddefnyddio'r system gymysg - o 66 y cant yn y flwyddyn 2022-23. Mae hynny'n uwch na Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful a llu o awdurdodau lleol eraill sy'n ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr wahanu eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ceisio symleiddio'r system ailgylchu ledled Cymru, fel y gall cartrefi a busnesau gymysgu eu gwastraff sych ailgylchadwy, gan gyflawni cyfraddau ailgylchu uchel iawn ledled y wlad o hyd, ond mewn ffordd llawer symlach?”
Yn ei hymateb, mynnodd y Trefnydd, fod y dull yng Nghymru yn gweithio'n “eithriadol o dda”.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Darren:
“Mae'n ddigon posib bod cyfraddau ailgylchu yn dda yng Nghymru ond dyw hynny ddim oherwydd ailgylchu wrth ymyl y ffordd, fel mae'r ffigurau ar gyfer Sir Ddinbych sydd â system gymysg o gymharu ag awdurdodau lleol eraill sy'n gweithredu system ailgylchu ymyl y ffordd yn dangos yn glir.
“Yn Sir Ddinbych, mae'r systemau presennol yn gweithio'n dda, ac eto fis nesaf, ar draul trethdalwyr lleol, bydd system newydd yn cael ei chyflwyno, a fydd yn lleihau amlder casgliadau biniau, ac sy’n annhebygol o wella cyfraddau ailgylchu, a bydd yn arwain at broblemau gydag arogleuon, sbwriel, tipio anghyfreithlon a phlâu a fydd yn anochel yn costio mwy i Gyngor Sir Ddinbych.
“Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried dilyn arweiniad Llywodraeth y DU o ddifrif a mabwysiadu'r dull symlach hwn, a fydd yn gwneud bywyd yn haws i drigolion lleol ac yn caniatáu i arbedion gael eu buddsoddi mewn gwasanaethau eraill fel ysgolion a llyfrgelloedd.”